Gareth Williams yn y llys i wynebu cyhuddiadau pellach
- Cyhoeddwyd

Mae Gareth Williams wedi ei wahardd o'i waith yn Ysgol Glantaf
Mae dirprwy brifathro o Gaerdydd, a gyfaddefodd ym mis Ionawr ei fod wedi ffilmio plant mewn toiled, wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd i wynebu cyhuddiadau pellach.
Ymddangosodd Gareth Williams, 47 oed, dirprwy bennaeth Ysgol Glantaf, gerbron y llys trwy gyswllt fideo.
Wnaeth e ddim cyflwyno ple i 12 cyhuddiad pellach o voyeuriaeth, 34 cyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blant a dau gyhuddiad o fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.
Mae wedi ei wahardd o'i waith.