Cau pwll nofio yn Y Ddraenen Wen ger Pontypridd am resymau diogelwch
- Cyhoeddwyd
Mae pwll nofio'r Ddraenen Wen ger Pontypridd wedi cau am resymau iechyd a diogelwch. Mi gafodd ymchwiliad ei gynnal gwnaeth ddangos bod yna broblemau strwythurol yn yr adeilad. Mi allai hyn achosi perygl i bobl sydd yn gweithio neu'n defnyddio'r pwll.
Yn ôl y cyngor doedd dim dewis ond cau'r pwll nofio yn syth. Mewn datganiad maen nhw'n dweud bod angen gwneud mwy o waith yno i ddatrys y broblem.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf:
"Bydd swyddogion y cyngor yn asesu'r materion strwythurol ac yn cyflwyno adroddiad manwl ar y materion yma i'r aelodau cyn gynted ag sydd yn bosib.
"Mae'r cyngor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn achosi i ddefnyddwyr y pwll ond mae diogelwch ymwelwyr a staff yn holl bwysig."
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol