Dylai ffans Caerdydd ymddiheuro iddo, meddai Vincent Tan

  • Cyhoeddwyd
Vincent Tan
Disgrifiad o’r llun,
Vincent Tan, perchennog clwb pêl droed Caerdydd

Mi ddylai cefnogwyr sydd wedi bod yn protestio a chwyno am sefyllfa Clwb pêl-droed Caerdydd ymddiheuro iddo, meddai'r perchennog, Vincent Tan.

Dydy Tan ddim edifarhau am newid lliw crysau'r Adar Gleision o las i goch, ac mae ganddo "ffydd" y bydd ei reolwr newydd, Ole Gunnar Solskjær, yn cadw Caerdydd yn Uwch-Gynghrair Lloegr, er eu bod yng ngwaelodion y tabl.

Neb yn ddiolchgar

Siaradodd Tan am y tro cyntaf ers i'r cyn-reolwr, Malky Mackay, adael y clwb ym mis Rhagfyr.

Dywedodd: "Hebdda i, buasai Caerdydd wedi mynd allan o fusnes. Oherwydd fy muddsoddiad i, fe gawson ni ein dyrchafu (i'r Uwch-Gynghrair)."

"Dwi'n ymwneud mwy â'r clwb rwan ac o dan fy arweiniad, fe fydd y clwb mewn siap da," ychwanegodd.

"Mae rhai o'n nheulu wirioneddol eisiau i mi adael. Dyden nhw ddim yn meddwl ei fod werth o.

"Mae nhw'n credu nad oes neb yn ddiolchgar. Ond mae'n rhaid i chi fod yn amyneddgar, derbyn y feirniadaeth ac weithiau y sylwadau sarhaus.

"Dio'm ots faint o bethau da rydych yn ei wneud, mi fydd yna ganran fach o bobl o hyd sydd ddim yn eich cefnogi."

Pan fydd yr anghydfod cyfreithiol am iawndal rhyngddo â Mackay wedi dod i ben, mae'n dweud ei fod yn gobeithio dweud y "gwir" wrth y cefnogwyr am roi'r sac i'r Albanwr.

Malky yn lwcus

Disgrifiad o’r llun,
Vincent Tan a Malky Mackay mewn cyfnod gwell

Apwyntiwyd Mackay ym mis Mehefin 2011 gan y cadeirydd ar y pryd, TG Chan, a'r cyfarwyddwr blaenorol, Alan Whiteley, penderfyniad na fyddai wedi digwydd petai Tan wedi ymgymryd mwy â'r clwb.

Ychwanegodd: "Doedd o ddim wedi gwneud yn dda iawn yn Watford, ond rhywsut, fe gyflogwyd ef gan ein prif weithredwr a'n cadeirydd i gymryd lle Dave Jones. Roedd Dave Jones wedi gwneud tipyn yn well.

"Felly, dwi'n meddwl bod Malky wedi bod yn lwcus pan ddaeth i Gaerdydd. Buddsoddais lot o arian ac fe aethom i fyny.

"A fyddai Malky wedi llwyddo ein dyrchafu heb fy muddsoddiad?"

Wedi iddynt gyrraedd yr Uwch-Gynghrair, mae Tan yn honni bod Mackay ac Ian Moody, y cyn-bennaeth ricriwtio, wedi gwario £15m yn fwy na'r £35m a gytunwyd ar gyfer prynu chwaraewyr newydd, cyhuddiad maent yn ei wadu.

Mae'r ddau hefyd yn honni bod pob penderfyniad wedi cael ei gytuno gan brif Weithredwr Caerdydd, Simon Lim.

Meddai: "Aeth pethau o'i le pan wnes i ddarganfod ein bod wedi gorwario ar chwaraewyr. Gyrrais Simon Lim draw o Malaysia ond dydy o ddim yn deall llawer am bêl-droed, felly mae o'n dibynnu ar yr arbenigwr.

"Mae ganddom ni'r arbenigwr ma'n dweud o hyd 'Gadewch y pêl-droed i mi, fi ydi'r arbenigwr', felly os ydi o'n gofyn i brynu A, B ac C, be fedrith Simon Lim ei ddweud? Be alla i ei ddweud?"

Allan o reolaeth

Disgrifiad o’r llun,
Cefnogwyr yn anhapus ac yn protestio am golli traddodiadau yr Adar Gleision

Disodlwyd Moody gan Alisher Apsalyamov, dyn 23 oed o Kazakhstan, sydd yn ffrind i fab Tan, a oedd ar brofiad gwaith gyda Chaerdydd.

Roedd Tan wedi canmol Apsalyamov am ei "wybodaeth anhygoel o bêl-droed" a bod ei gred bod Caerdydd wedi talu gormod am rhai chwaraewyr wedi cael ei "brofi'n gywir."

Yn ystod y cyfweliad hwn, dywedodd ei fod yn difaru nad oedd wedi cymryd mwy o reolaeth.

Meddai: "Yn y dechrau, roeddwn i'n ddigon hael i roi i'r rheolwyr ormod o awdurdod, ac fe aethant allan o bob rheolaeth.

"Gwnaethant fusnes gwael. Roedd hynny'n gamgymeriad.

"Ond rŵan dwi'n cymryd fwy o'r awenau, dwi'n deall y gwerthoedd ac yn astudio. Pob busnes dwi ddim yn deall, os ydw i'n gwario digon o amser, cwpwl o fisoedd, fe fyddai'n deall lot.

"Dwi'n deall lot am bêl droed yn barod, dwi'n deall gwerth chwaraewyr ac ni fyddwn yn gwneud penderfyniadau gwirion o hyn ymlaen.

"Yn ffenest gyfnewid chwaraewyr mis Ionawr, roeddwn yn chwarae rhan fawr, Fe wariwyd £6m ar saith o chwaraewyr. Haf diwethaf, fe arwyddwyd saith chwaraewr am £50m. Dwi eisiau sicrhau ein bod yn gwario'n gywir. Os ydw i yn chwarae rhan, dwi'n gwneud penderfyniadau busnes gwell, a chael mwy o werth am ein harian.

"Yn yr haf, dwi'n meddwl y byddwn yn gwneud yn well yn y farchnad trawsnewid chwaraewyr oherwydd fe fyddai i yn bersonol yn cymryd rhan. Fyddwn ni ddim yn rhoi cyfle i'n rheolwr redeg yn wyllt."

Yn barod, mae Caerdydd wedi sicrhau cytundeb ymlaen llaw gyda'r ymosodwr, Javi Guerra, o Real Valladolid yn Sbaen, iddd ddod i Gaerdydd am ddim yn yr haf.

Pwyntiodd tuag at brynu gwael yn yr haf, gan enwi Andreas Cornelius a John Brayford fel esiamplau, fel un o'r rhesymau am ganlyniadau gwael diweddar y clwb.

Aeth ymlaen i ddweud bod clybiau Southampton a Hull, yn profi nad oes angen gorwario ar chwaraewyr a bod modd cael rheolaeth dda o'r clwb.

Mae Tan yn credu bod clybiau Prydeinig yn lwcus i gael perchnogion o dramor, a gwadodd y byddai'n gadael Caerdydd petaent yn disgyn allan o'r Uwch-Gynghrair.

Os ydynt yn aros i fyny, mae'n addo rhoi £1m i elusennau lleol.

Coch dim Glas

Er ei fod eisiau cymodi gyda'r cefnogwyr, does ganddo ddim diddordeb newid lliwiau'r tîm yn ôl i las.

Meddai: "Does yna ddim peryg y byddai'n newid o'n ôl i las o dan fy mherchnogaeth i. Falle y gallan nhw ddod o hyd i berchennog sy'n hoffi glas, talu a fy mhrynu allan o'r clwb.

"Mae'n helpu bod coch yn lliw am lwyddiant a llawenydd yn Asia.

"Ar ôl i ni ei newid, yn yr un tymor fe'n dyrchafwyd. Dwi'n credu bod hynny yn arwydd da."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol