Deufis ers diflaniad Nida Naseer
- Cyhoeddwyd

Deufis ers diflaniad y ferch ifanc o Gasnewydd, Nida Naseer, mae'r dirgelwch yn parhau.
Fe aeth Nida ar goll wedi iddi fynd â'r biniau y tu allan i'w thŷ yn ardal Pillgwenlli ar nos Sadwrn, Rhagfyr 28.
Ers hynny, does dim sôn wedi bod amdani a dyw swyddogion heb allu dod o hyd i'r ddynes ifanc.
Roedd hi wedi diflannu heb esgidiau ar ei thraed, heb ei ffôn symudol, arian na'i chot.
Mae Heddlu Gwent yn dweud bod ymchwiliadau'n parhau a bod ystafell a staff penodol yn dal i weithio ar yr ymchwiliad.
Mae'r heddlu'n dweud na fedran nhw roi gwybod yn union faint o swyddogion sy'n ymchwilio gan fod y nifer yn newid yn ddyddiol.
Mae swyddogion hefyd yn parhau i edrych ar nifer sylweddol o CCTV.
Maen nhw hefyd yn dal i ddilyn ymholiadau o ganlyniad i'r ymchwiliad eu hunain.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae swyddogion wedi bod yn chwilio amdani mewn amryw o leoliadau ar draws Casnewydd, ac wedi bod yn mynd o ddrws i ddrws yn yr ardal lle aeth Nida ar goll.
Dechrau Chwefror, fe dynnwyd arbenigwyr ieithoedd Urdu a Punjabi o Heddluoedd Maenceinion, Thames Valley a Llundain i helpu'r ymchwiliad.
Dros 50 o alwadau ond dim golwg o Nida
Yn yr wythnosau'n dilyn diflaniad Nida o'i chartref am 8yh ar Stryd Pinton, Pillgwenlli, fe dderbyniodd yr heddlu dros 50 o alwadau ffôn gan bobl yn honni eu bod nhw wedi gweld Nida Naseer, ond does yr un ohonyn nhw wedi cael ei gadarnhau.
Ers dechrau Chwefror, mae un person wedi honni iddyn nhw ei gweld. Roedd hyn y tu allan i ardal Heddlu Gwent ac eto, dydy o heb gael ei gadarnhau.
Mae teulu Nida wedi gwneud nifer o apeliadau cyhoeddus yn erfyn arni i ddod gartref, gan gynnwys un ar ddiwrnod cyn ei phen-blwydd yn 19 oed ar Ionawr 25.
Mi ddaeth y teulu i Brydain o Bacistan bum mlynedd yn ôl ac er iddyn nhw wneud cais i aros yma mi gafodd y cais hwnnw ei wrthod y llynedd.
Maen nhw yng nghanol y broses o apelio.
Dywedodd ei thad bod y teulu wedi bod yn dadlau am hyn yn fuan cyn i Nida ddiflannu.
Mae'i pherthnasau hefyd yn dweud fod Nida'n anhapus am ddwy flynedd cyn diflannu, oherwydd bod cais ei theulu am loches wedi cael ei wrthod, oedd yn golygu na fedrai hi fynychu'r brifysgol.
Roedd hi hefyd, meddai'i chwaer, yn genfigennus o ffrind oedd wedi cael caniatâd i aros yn y wlad, a chael cartref newydd.
Roedd Nida, yn ôl ei theulu, yn awyddus i ddilyn gyrfa ym myd marchnata neu fel rheolwr cyllid.
Fe gafodd ei gweld am y tro diwethaf yn gwisgo jîns a thop du. Mae ganddi wallt hir du, mae'n denau ac yn 5 troedfedd 3 modfedd o daldra.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2014