Atgyweirio morglawdd y Rhyl
- Cyhoeddwyd

Mi fydd y gwaith o atgyweirio morglawdd y Rhyl yn dechrau fore Llun.
Bydd y promenâd rhwng Splash Point a'r Heulfan ar gau er mwyn dechrau atgyweirio'r morglawdd a ddifrodwyd yn ystod stormydd mis Rhagfyr.
Yn ystod y tywydd garw fis Rhagfyr, cafodd tua 150 o gartrefi eu heffeithio gan y llifogydd yn y dre, a bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi.
Roedd llanw uchel a gwyntoedd cryfion wedi taro'r ardal yn ddrwg.
Bu raid cau ysgolion ac fe gafodd nifer o drenau eu canslo.
Mi falwyd darn o'r morglawdd yn agos i'r clwb golff yn y dre.
Roedd bwriad i ddechrau gwaith atgyweirio'r morglawdd yn syth wedi'r Nadolig cyn y llanw mawr nesaf ym mis Ionawr, ond bu'n rhaid rhoi darn o goncrid a rhesi o fagiau tywod yn y bwlch fel amddiffynfa dros dro.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud bod y gwaith wedi'i drefnu i sicrhau y bydd y promenâd ar agor yn barod ar gyfer y Pasg.
Os, am unrhyw reswm, na fydd yr holl waith wedi'i gwblhau cyn y Pasg, mae'n bosib y bydd yn rhaid cau'r promenâd am gyfnod eto ar ôl y Pasg.
Dywedodd Aelod Cabinet Arweiniol yr Amgylchedd, y Cynghorydd David Smith: "Ers stormydd mis Rhagfyr, yn ogystal â chynorthwyo pobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi, rydym ni hefyd wedi bod yn gweithio i asesu'r difrod i'r môrglawdd a rhoi mesurau ar waith i'w atgyweirio.
"Dw i'n falch o weld bod y gwaith yma ar fin dechrau."
Straeon perthnasol
- 10 Rhagfyr 2013
- 15 Chwefror 2014
- 26 Rhagfyr 2013
- 12 Rhagfyr 2013