Tri chwnstabl wedi eu harestio
- Cyhoeddwyd
Dywedodd Heddlu Gwent fod tri chwnstabl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
"Mae dau yn byw yn ardal Sir Caerffili a'r llall yn ardal Casnewydd," meddai llefarydd.
"Cafodd y tri eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu."
Dywedodd fod y tri wedi eu harestio ar Chwefror 6 ac wedi eu gwahardd o'u gwaith.