Caeredin 31-25 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Caeredin 31-25 Gweilch
Noson siomedig i'r Cymry o gofio bod y Gweilch wedi maeddu Caeredin 44-10 ym Medi.
Cefnwr Caeredin Bezuidenhout oedd y seren, pedair cic gosb a dau drosiad.
Ciciodd Biggar bum cic gosb i'r Cymry a sgoriodd Hassler ddau gais ond doedd hyn ddim yn ddigon.
Cyn y gêm nos Wener dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch Steve Tandy: "Mae'n wych bod y chwaraewyr rhyngwladol James King, Dan Biggar a Justin Tipuric gyda ni.
"Fe fyddan nhw'n hwb enfawr.
"Ond mae Caeredin wedi datblygu wrth i'r tymor fynd yn ei flaen ac fe fydd yn her anodd i ni."
Ulster 38-8 Dreigiau
Roedd Tommy Bowe yn amlwg wrth sgorio dau gais gwych yn erbyn y Dreigiau yn Ravenhill.
Ruan Pienaar sgoriodd y cais cynta' i Ulster cyn i Bowe, oedd yn gryf ac yn gyflym, groesi'r llinell ychydig o funudau cyn yr egwyl.
Roedd hi'n 31-0 ar yr egwyl cyn i'r blaenasgellwr Sean Doyle sgorio cais arall i Ulster.
Cafodd Ross Wardle gais i'r ymwelwyr.
Roedd y Dreigiau heb eu capten Andrew Coombs gafodd anaf i'w ysgwydd wrth hyfforddi i Gymru.
Eu gobaith oedd trechu Ulster wedi eu buddugoliaeth o 15-8 yn Rodney Parade ym mhenwythnos cynta'r tymor.
Ond mae tîm Lyn Jones wedi colli eu chwe gêm ddiwetha yn erbyn timau Gwyddelig.