Tywysog Charles yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
TywysogFfynhonnell y llun, Corporal Barry Lloyd RLC
Disgrifiad o’r llun,
Y tywysog yn Castlemartin yn Sir Benfro

Mae'r Tywysog Charles wedi bod yn y gorllewin a'r de ddydd Gwener.

Yn gynta' fe aeth i gyfarfod â milwyr Gwarcheidwaid Marchfilwyr y Frenhines oedd yn ymarfer yn Castlemartin yn Sir Benfro.

Y tywysog yw'r prif gyrnol.

Wedyn ymwelodd â Thŷ Llanelly yn Llanelli er mwyn cael golwg ar ddatblygiadau yn sgil prosiect adfer ar gost o £7m.

"Mae hyn wedi creu argraff fawr arnaf," meddai, "ac rwyf yn dymuno pob llwyddiant i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Sir Gaerfyrddin."

Dywedodd Claire Deacon, y prif weithredwr: "Mae wastad wedi bod yn cefnogi hen adeiladau ac mae hwn yn gyfle i ni dynnu sylw at y dre' a dweud bod yr adeilad hwn ar agor."

Yna ymwelodd â hen neuadd y dre' ym Merthyr fydd yn agor Ddydd Gŵyl Dewi yn sgil prosiect adfer ar gost o £8m.

Yno bydd canolfan diwydiannau creadigol.