Abertawe: Cwyn swyddogol
- Cyhoeddwyd

Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau y byddan nhw'n gwneud cwyn swyddogol i Uefa a Heddlu Naples am y ffordd gafodd eu cefnogwyr eu trin nos Iau.
Fe fethodd cannoedd o ffans hanner awr gyntaf gêm yr Elyrch yn erbyn Napoli wedi oedi ar fysus oedd yn eu cludo i'r stadiwm.
Roedd y rheiny gafodd eu heffeithio yn cael eu hebrwng gan yr heddlu ar fysus i Stadio San Paolo i sicrhau eu bod yn cyrraedd yn ddiogel.
Roedd trafferthion wedi bod yn Napoli yn ystod gemau Ewropeaidd yn erbyn timau eraill.
Fe gymrodd dros ddwyawr i gludo 200 o gefnogwyr i'r stadiwm o ardal y porthladd - taith ddylai gymryd oddeutu chwarter awr.
Yn ogystal, roedd 'na oedi ar fysus o Rufain a Sorrento.
Meddai llefarydd ar ran y clwb: "Mae'n warthus bod ein ffans ni wedi cael eu trin fel hyn. Does dim esgus ac fe fyddwn ni'n mynnu atebion gan Uefa a'r awdurdodau yn Naples.
"I wneud pethau'n waeth, dim dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd i gefnogwyr o dramor yn Naples. Fe ddioddefodd ffans Arsenal yr un driniaeth yn ddiweddar.
"Roedden ni'n meddwl ein bod ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatrys unrhyw broblemau...
"Fel clwb, 'dy ni'n gwerthfawrogi cefnogaeth anhygoel ein ffans... Wedi teithio mor bell i gefnogi'r clwb, mae cael eu trin fel hyn yn gwbl annerbyniol."
Bydd Heddlu De Cymru hefyd yn cyflwyno adroddiad i Uefa am drefniadau diogelwch a phlismona'r gêm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2014