Casnewydd 2 - 2 Scunthorpe
- Cyhoeddwyd

Casnewydd 2 - 2 Scunthorpe
Fe sicrhaodd gôl funud ola' ganlyniad cyfartal i Gasnewydd yn erbyn Scunthorpe yn yr Ail Gynghrair ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Casnewydd sgoriodd gynta' wedi 24 munud - Lee Minshull yn penio'r bêl i'r rhwyd. Fel hynny'r arhosodd hi am weddill yr hanner.
Fe ymatebodd Scunthorpe gyda'u gôl gynta' nhw gan Paddy Madden wedi awr o chwarae.
Fe ddyblodd yr ymwelwyr eu mantais wedi 82 munud, pan sgoriodd Dave Syers.
Ond fe sicrhaodd Chris Zebroski bwynt i'r Alltudion gyda'i droed dde, a'r cloc ar 90 munud.