Dyn yn marw wedi i 4x4 ddisgyn i lawr allt ger yr Wyddgrug

Mae dyn wedi marw wedi i'w gerbyd 4x4 ddisgyn i lawr allt yn Sir y Fflint.

Fe ddisgynodd y Land Rover yn Moel Llys y Coed ger yr Wyddgrug yn fuan fore Sul.

Dydy Heddlu Gogledd Cymru ddim yn credu bod cerbydau eraill yn rhan o'r digwyddiad.

Dydyn nhw ddim yn trin marwolaeth y dyn fel achos amheus.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.