Gwn peled: Merch yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae merch 16 oed yn yr ysbyty wedi iddi gael ei saethu gyda gwn peled wrth fynd â'i chi am dro yn Sir y Fflint.
Fe gafodd hi ei saethu wedi iddi blygu i godi ei chi ym Mharc Gwepre ger Cei Conna, gan ddyn oedd yn rhan o griw oedd yn cerdded o'i blaen hi ar y llwybr.
Mae'r ferch yn yr ysbyty wedi'r ymosodiad ddigwyddodd rhwng 2.00 a 2.30pm b'nawn Sadwrn.
Rwan, mae Heddlu Gogledd Cymru'n apelio am dystion.
Roedd y ferch yn cerdded tuag at y castell pan gafodd hi ei saethu.
Digwyddiad 'anarferol'
Fe welodd hi griw o bedwar neu bump o ddynion a phlygu i godi ei chi. Wrth iddi sefyll, fe welodd un ohonyn nhw'n pwyntio gwn tuag ati.
Fe deimlodd hi boen sydyn ac fe redodd y dynion oddi yno.
Aeth y ferch adref, cyn cael ei chludo i'r ysbyty lle mae hi'n parhau i wella.
Meddai'r Ditectif Arolygydd Tim Green: "Fe hoffwn i atgoffa'r gymuned mor anarferol yw digwyddiadau fel hyn ac rydym yn apelio ar unrhywun sydd â gwybodaeth i ddod i siarad efo ni."
Gall unrhywun â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu'r cyferinod RC14030933.