Tottenham Hotspur 1-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd Caerdydd ambell i gyfle i sgorio, ond Roberto Soldado rwydodd unig gôl y gêm i Spurs yn White Hart Lane, ac 1-0 oedd y sgor derfynol.
Roedd y rhyddad ar wyneb y Sbaenwr yn amlwg wrth iddo sgorio ei nawfed gôl y tymor hwn.
Bron iawn i Steven Caulker roi'r bêl yng nghefn y rhwyd i Gaerdydd, ond taro'r trawst oedd ei hanes.
Fe heriodd Declan John Hugo Lloris, hefyd ond mae'r Adar Gleision yn parhau i fod un safle'n uwch na gwaelod yr Uwchgynghrair.
I dîm Ole Gunnar Solskjær, mae colli eto yn golygu eu bod nhw dri phwynt o ddiogelwch ac wedi methu symud uwchben Sunderland.
O flaen eu perchennog Vincent Tan, oedd yn y dorf, ymestynodd record y rheolwr o Norwy i un buddugoliaeth mewn wyth gêm Uwchgynghrair ers iddo gychwyn yn ei swydd fis Ionawr.