Cyhoeddi enw dyn fu farw ar Fryniau Clwyd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw ar ôl i'w Land Rover lithro i lawr llethr ar Fryniau Clwyd fore Sul.
Roedd Gareth Huw Roberts yn 30 ac o ardal Rhuthun yn Sir Ddinbych.
Dywedodd yr heddlu nad oedd ei farwolaeth yn amheus.
"Dydan ni ddim yn credu bod unrhyw gerbydau eraill yn y cyffiniau pan ddigwyddodd y ddamwain ar Foel Llys y Coed ger Yr Wyddgrug," meddai llefarydd.
Mae Moel Llys y Coed 1,500 troedfedd uwchben lefel y môr.