Adroddiad Silk: Y manylion fesul maes

Silk II
Image caption Mae'r adroddiad yn argymhell datganoli heddlua, ymysg pethau eraill

Mae ail ran adroddiad y Comisiwn Silk yn argymhell gwneud nifer o newidiadau i'r setliad datganoli.

Cred y comisiwn fod dadleuon cryf dros ddatganoli rhai pwerau ychwanegol i Gymru, gyda San Steffan yn parhau'n gyfrifol am feysydd eraill.

Byddai model lle mae pwerau wedi eu cadw yn "caniatáu gwell system ddatganoli yng Nghymru" yn ôl yr adroddiad. Yn ogystal, byddai'n "eglurach ac yn caniatáu i'r sawl sy'n creu cyfreithiau ymgymryd yn fwy hyderus â'u rôl". Roedd y comisiwn yn credu y byddai hyn o "fudd i bobl Cymru".

Cred y comisiwn y dylai San Steffan fod yn gyfrifol am y meysydd canlynol:

• Polisi macro-economaidd;

• Materion tramor;

• Mewnfudo;

• Amddiffyn.

Mae'r argymhelliad hwn wedi cael ei groesawu gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Yn ôl Mr Jones, byddai hyn yn "cryfhau atebolrwydd, ac yn lleihau'r sgôp ar gyfer anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU".

Penderfynodd y comisiwn nad oedd pwerau ddylai gael eu dychwelyd i San Steffan.

Y Cynulliad

Mae'r adroddiad yn dweud bod angen cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad, ond nid yw'n cynnig ffigwr penodol.

Mae hefyd yn argymell edrych ar gynyddu maint y sefydliad, gan roi ystyriaeth benodol i gynyddu maint a nifer y pwyllgorau.

Mae Electoral Reform Society (ERS) Cymru wedi croesawu'r canfyddiad.

Ym mis Hydref fe wnaethon nhw ryddhau adroddiad ar y cyd gyda'r prosiect DU Undeb sy'n Newid oedd yn galw am gynyddu'r nifer o'r 60 presennol i 100.

Yn siarad ar ran ERS Cymru, dywedodd Dr Owain ap Gareth: "Mae Aelodau Cynulliad yn gyfrifol am oruchwylio sut mae £15 biliwn o arian cyhoeddus yn cael ei wario, ac yn gallu pasio cyfreithiau ar faterion pwysig fel iechyd, addysg a thrafnidiaeth.

"Gall gwell llywodraethiant arwain at gael gwell gwerth ein harian. Mae gan yr Alban 106 o aelodau i gadw llygad ar sut mae ei lywodraeth yn gwario arian cyhoeddus. Yma yng Nghymru, mae gennym llai na hanner hynny - prin dros 40 aelod i gadw llygad ar ein rhan.

"Byddai Cynulliad mwy yn costio llai na 0.1% o gyllid y Cynulliad. Am hynny, gallwn gael fwy o sicrwydd fodd y 99.9% arall o'r cyllid yn cael ei wario'n gall."

Roedd grŵp Mr Silk yn credu y dylai hawl yr ysgrifennydd gwladol i atal mesurau'r Cynulliad rhag mynd ymlaen i gael Cydsyniad Brenhinol gael ei newid i fod yr un fath â'r sefyllfa yn yr Alban, ac y dylai golli ei hawl i gymryd rhan yn sesiynau'r Cynulliad.

Pwerau economaidd

Barn y comisiwn oedd "na ddylid ar y cyfan newid sut y dyrennir pwerau ac y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gadw pwerau macro-economaidd a micro-economaidd pwysig".

Doedden nhw ddim o blaid datganoli cyfrifoldeb dros raglenni cyflogaeth na chwaith y system o reoleiddio cwmnïau.

Roedd rhan gyntaf adroddiad y comisiwn yn ymwneud â materion economaidd, felly roedd llawer o'r materion wedi cael eu trafod yno eisoes.

Un argymhelliad oedd gan y comisiwn oedd y dylai llywodraethau San Steffan a Bae Caerdydd "wella sut mae data economaidd yn cael eu cynhyrchu a'u casglu yng Nghymru a dylid gwella'r gallu modelu hefyd".

Heddlua

Barn y comisiwn oedd y dylai'r cyfrifoldeb dros yr heddlu gael ei ddatganoli, ond ei fod yn well i San Steffan barhau i fod yn gyfrifol am yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).

Mae'r Comisiynydd Heddlu dros ogledd Cymru, Winston Roddick, o blaid datganoli heddlua, ond mae Christopher Salmon, sy'n gwneud y swydd yn Nyfed-Powys, yn gwrthwynebu.

Cred y comisiwn oedd y dylid datganoli'r system gyfiawnder ieuenctid yn syth, ac ystyried y dadleuon dros ddatganoli'r gwasanaeth prawf a'r gwasanaeth carchardai wedi i hynny gael ei wneud.

Yn ogystal, roedd yn argymhell y dylid sefydlu Uchel Lys a bwrdd cyfiawnder ar gyfer Cymru.

Trafnidiaeth

Mae'r adroddiad yn dadlau bod achos cryf dros ddatganoli cyfrifoldeb dros y system rheilffyrdd, ond "y byddai gofyn cydweithio'n glos ar draws y ffin".

Gallai hyn olygu bod penderfyniadau ynglŷn â pha gwmnïau sy'n derbyn y cyfrifoldeb dros redeg gwasanaethau trên yng Nghymru'n symud o San Steffan i Fae Caerdydd, ac yn ogystal, bod Cymru'n cael mwy o ddweud ynghylch gwasanaethau traws-ffiniol.

Y prif reswm mae'r comisiwn yn ei roi dros hyn yw bod angen "system drafnidiaeth sydd wedi'i chydgysylltu'n well yng Nghymru".

Roedd y comisiwn o blaid datganoli cyfrifoldeb dros borthladdoedd, ond doedden nhw ddim yn credu bob y ddadl dros ddatganoli cyfrifoldeb dros ffyrdd yn ddigon cryf.

Doedd gan y comisiwn ddim gwrthwynebiad dros weld terfynau cyflymder ac yfed a gyrru yn cael eu datganoli, na chwaith y cyfrifoldeb dros reoleiddio gwasanaethau tacsi a bysys.

Mae Sustrans o blaid hyn, gan ddisgrifio datganoli'r pŵer dros osod terfynau cyflymder fel "arf allweddol" yn y broses o wneud cymunedau'n fwy diogel.

Meddai cyfarwyddwr cenedlaethol Sustrans Cymru, Jane Lorimer: "Mae'r pŵer i osod terfynau cyflymder yn rhan allweddol o'r jig-so ar gyfer gwneud ffyrdd Cymru'n fwy diogel, yn ogystal â chynyddu cerdded a beicio.

"Rydym yn croesawu argymhelliad y Comisiwn Silk ac yn gobeithio bydd modd ei ddefnyddio ar gyfer gwneud 20 milltir yr awr y cyflymder arferol mewn cymunedau ledled Cymru."

Yr iaith Gymraeg

Yn ôl Mr Silk, dylid ystyried "diwygio'r gyfraith i roi statws cyfartal i'r Gymraeg" ac "asesu'n systematig sut y defnyddir y Gymraeg ar draws y llywodraeth ac yna cadw golwg ar y sefyllfa'n barhaus".

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yn dweud ei bod hi wedi tynnu sylw Mr Silk at y ffaith bod ambell i gyfraith - sy'n ymwneud â rheithgorau a dogfennau sy'n hanfodol i'w defnyddio o ran cofrestru genedigaethau, priodasau, marwolaethau ac amlosgi - yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

"Mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru," meddai Ms Huws.

"Bydd adolygu'r cyfreithiau sy'n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yn sicrhau bod y statws yn dod yn rhywbeth real ac yn cynyddu hawl y dinesydd i ddefnyddio'r Gymraeg yng Nghymru.

"Rwy'n croeswu'r ffaith i'r comisiwn gynnwys yr argymhellion hyn yn dilyn ein tystiolaeth. Edrychaf ymlaen at weld llywodraeth San Steffan yn ymateb i'r argymhellion, ac yn unioni'r sefyllfa o ran y Gymraeg ac hynny'n ddi-oed."

Adnoddau naturiol

Mae'r comisiwn yn argymell datganoli cyfrifoldeb dros brosiectau ynni hyd at 350MW, a hefyd y "cyfrifoldeb am roi trwyddedau morol yn nyfroedd môr Cymru".

Mae RenewableUK Cymru wedi croesawu'r argymhelliad.

Dywedodd eu cyfarwyddwr, Dr David Clubb: "Rydym yn falch o weld y cynnig i gysylltu datblygiad cysylltiedig gyda chaniatâd cyffredinol y prosiect, fydd yn symleiddio'r broses a lleihau ansicrwydd i ddatblygwyr.

"Mae hyn yn cysylltu'n dda gyda sicrwydd gan y gweinidog adnoddau naturiol a bwyd yn gynharach y flwyddyn hon y byddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu targedau ar gyfer y sector yn dilyn datganoli pwerau cydsynio ynni."

Mae'r AS Ceidwadol Glyn Davies, ar y llaw arall, yn chwyrn yn erbyn y cynnig.

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Does gen i ddim gwrthwynebiad i'r peth mewn egwyddor, ond mae'n rhaid i mi gymryd safbwynt ymarferol, ac mae Llywodraeth Cymru, ers iddo ddod i fodolaeth, wedi bod eisiau dinistrio'r canolbarth gyda ffermydd gwynt, tyrbinau a pheilonau, ac alla i ddim yn bresennol â chefnogi polisi fydd yn gwneud hynny'n fwy tebygol."

O ran y cyfrifoldeb drws ddŵr, penderfyniad y comisiwn oedd "y dylai'r ffin weinyddol ddiffinio terfyn cymhwysedd Llywodraeth Cymru".

Darlledu

Doedd y comisiwn ddim yn credu y dylid datganoli'r cyfrifoldeb dros ddarlledu, ond roedden nhw'n credu bod angen "creu corff llywodraethu datganoledig o fewn fframwaith Ymddiriedolaeth y Deyrnas Unedig sydd â phwerau i oruchwylio cynnyrch y BBC yng Nghymru ac i graffu arno".

O ran S4C, y penderfyniad oedd mai'r Cynulliad ddylai fod yn gyfrifol am ariannu "elfen gwariant cyhoeddus" y sianel, ac y dylai llywodraeth San Steffan drafod gyda Llywodraeth Cymru cyn penodi aelodau i awdurdod y sianel.

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones: "Rydym yn ddiolchgar i'r comisiwn am roi ystyriaeth i ddyfodol S4C fel rhan o'u gwaith.

"Mae S4C yn rhoi cryn bwyslais ar sicrhau perthynas gref gyda llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth Cymru, ac rydym am barhau i gynnal ein perthynas gyda'r ddwy lywodraeth wrth inni wynebu heriau'r dyfodol. Fe fyddwn ni'n parhau i drafod gyda'n rhanddeiliaid gyda'r bwriad o sicrhau bod S4C yn cael ei hariannu'n ddigonol, yn unol â'r ddeddfwriaeth."

Nawdd cymdeithasol ac iechyd

Doedd yr adroddiad ddim yn argymell unrhyw newid ym meysydd nawdd cymdeithasol ac iechyd, gan ddweud y dylai'r cyfrifoldeb dros nawdd cymdeithasol aros gyda San Steffan.

Ond dywedodd y comisiwn bod angen gwella'r ffordd mae cleifion yn derbyn gofal dros y ffin, a bod angen felly i "sicrhau bod cleifion ar bob ochr i'r ffin yn gallu cael gafael ar yr un gwasanaethau ac ymagwedd strategol at gyd-ddarparu gwasanaethau iechyd".

Addysg

Dylai tâl ac amodau athrawon gael ei ddatganoli, ond San Steffan ddylai barhau i fod yn gyfrifol am bensiynau, yn ôl y comisiwn.

Dylid sefydlu cyd-bwyllgor ar addysg uwch a chynnal ymchwil er mwyn sicrhau gwell cyd-lyniaeth rhwng penderfyniadau yng Nghymru a gweddill y DU.

Mae'r undeb athrawon ATL Cymru yn dweud eu bod nhw'n gwrthwynebu'r cynnig hwn.

Dywedodd eu cyfarwyddwr, Dr Philip Dixon: "Mae mwyafrif llethol yr athrawon yn gyson eu gwrthwynebiad i ddatganoli tâl ac amodau gan ofni y byddan nhw'n colli allan fel sy'n digwydd efo pob agwedd arall o ariannu addysg yng Nghymru.

"Felly, yn ddechreuol, byddai argymhellion y Comisiwn Silk yn amhoblogaidd iawn."

Ond dyw UCAC ddim yn cytuno, ac fe ddywedodd eu hysgrifennydd cyffredinol Elaine Edwards: "Ar adeg pan mae polisïau addysg yng Nghymru a Lloegr yn gynyddol wahanol i'w gilydd, nid oes unrhyw synnwyr mewn cadw system tâl ac amodau gwaith ar y cyd.

"Mae'n bŵer sydd wedi'i ddatganoli eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac rydym yn eithriadol o falch bod y comisiwn wedi gwneud argymhelliad clir ar y mater hwn."

Trefniadau etholiadol

Mae'r comisiwn yn dweud y dylid datganoli'r cyfrifoldeb ar gyfer cynnal etholiadau lleol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.