Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o gymorth i fusnes

  • Cyhoeddwyd
Arian
Disgrifiad o’r llun,
Mae Robert Lloyd Griffiths am sicrhau bod busnesau bach yn cael y cymorth a'r gefnogaeth i dyfu, buddsoddi a chreu swyddi

Mae un o arweinwyr busnes amlycaf Cymru wedi ei ddewis gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad i'r ffordd y mae cymorth ariannol a chyngor busnes yn cael ei roi i fusnesau bychain a chanolig eu maint.

Mae Robert Lloyd Griffiths yn bennaeth ar Sefydliad y Cyfarwyddwr yng Nghymru ac yn Gadeirydd Bwrdd Strategol Busnes Cymru.

Fe fydd yn arwain adolygiad i weld sut y gellir cynnig cyngor busnes a chymorth ariannol gwell i fusnesau Cymru er mwyn iddynt gael y budd gorau o'r cymorth sydd ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau'r ffordd "mwyaf effeithiol ac effeithlon" o ddarparu cymorth i fusnesau.

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw ar y llywodraeth i gymryd camau i helpu busnesau bach cyn gynted a phosib, i hybu twf economaidd.

'Ymrwymo i Helpu'

Mewn datganiad ysgrifenedig i Aelodau'r Cynulliad ddydd Llun, dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart y byddai adolygiad yn cael ei gynnal.

"Rwyf wedi gofyn i Robert Lloyd Griffiths, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Bwrdd Strategol Busnes Cymru, i arwain adolygiad o'r modd y gellir alinio'r cymorth anariannol gan Lywodraeth Cymru â'r cymorth ariannol, a manteisio ar yr un pryd ar yr hyn sydd gan 'Busnes Cymru' i'w gynnig hefyd," meddai.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu twf busnesau ac yn awyddus i sicrhau fod busnesau bychain a chanolig eu maint yn cael mynediad at y cymorth gorau posibl - p'un a ydyw'n gyngor busnes neu'n gymorth ariannol.

"Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau'r dull mwyaf effeithiol ac effeithlon o ddarparu'r gefnogaeth honno."

'Cymorth a chefnogaeth'

Dywedodd Robert Lloyd Griffiths ei fod yn bwysig rhoi pob cymorth posib, er mwyn i fusnesau bach fedru llwyddo.

"Mae busnesau bach a chanolig eu maint yn rhan hanfodol o economi Cymru ac rydym am sicrhau eu bod yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i dyfu, buddsoddi, creu swyddi a helpu i ledaenu ffyniant a gwneud cyfraniad pwysicach fyth i economi Cymru.

"Mae'n bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, a byddaf yn ceisio barn yr holl bartïon sydd â diddordeb i sicrhau bod yr argymhellion yn ateb anghenion busnesau Cymru."

'Angen gweithredu'

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod angen i'r llywodraeth weithredu ar frys i roi cymorth i fusnesau bach.

Dywedodd William Graham AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar fusnes: "Busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru, ond os nad ydyn nhw'n gallu cael cymorth ariannol a chyngor busnes pan maen nhw ei angen, gall swyddi a thwf economaidd fod mewn perygl.

"Bydd sawl yn y gymuned fusnes yn ochneidio wrth i weinidogion Llafur gynnal adolygiad arall, tra bod nifer o fusnesau bach mewn perygl o fynd i'r wal."

Ychwanegodd: "Mae angen i lywodraeth Lafur Carwyn Jones ddechrau gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth yn gynt, i help busnesau bach greu swyddi a hybu twf economaidd."

Mae disgwyl y bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau erbyn mis Medi.