BBC Cymru Fyw

Sony'n creu 26 o swyddi yn ardal Pen-y-bont

Published
image captionSony: 'Mae allgyfeirio wedi bod yn allweddol'
Mae Sony wedi dweud eu bod yn creu 26 o swyddi er mwyn cwrdd â mwy o alw.
Bydd y swyddi ar y lein gynhyrchu ac yn yr adran gwasanaethu cwsmeriaid yn y ganolfan dechnoleg ym Mhencoed ger Pen-y-bont.
Mae'r cwmni'n cynhyrchu camerau, dyfeisiadau meddygol a chyfrifiadur yr un maint â cherdyn credyd.
Dywedodd y Gweinidog Economi Edwina Hart: "Mae Sony yn un o'n cwmnïau angori pwysig ac yn cyfrannu'n fawr at yr economi oherwydd swyddi, datblygu sgiliau a buddsoddi ac mae'r ehangu'n newyddion gwych."
Yn ôl rheolwr gyfarwyddwr y ganolfan dechnoleg Steve Dalton, mae'r blynyddoedd diweddar wedi bod yn llwyddiannus.
"Mae allgyfeirio wedi bod yn allweddol.
"Hwn yw'r rheswm am ein llwyddiant ni, am greu swyddi."

Straeon perthnasol

  • Raspberry Pi yn symud i Gymru o China