Ymosodiad ar ferch 13 oed yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i ymosodiad rhywiol honedig ar ferch 13 oed nos Sadwrn.
Mae dyn 26 oed o ardal Casnewydd wedi cael ei arestio.
Y gred ydi bod y ferch a'r troseddwr honedig wedi camu o fws ger bwyty'r Harvester, Heol Malpas, Casnewydd.
Mae'r heddlu am i unrhywun oedd yn ardal Gorsaf Fysiau Casnewydd tua 7.15yh neu oedd ar y bws 19E (canol y dref i Malpas) adawodd yr orsaf tua 7.20yh gysylltu â nhw.
Yn y cyfamser, mae plismyn yn cefnogi'r ferch a'i theulu.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101, gan roi'r cyfeirnod 491 1/3/14.