Cyngor Torfaen yn taclo'u cyllideb
- Cyhoeddwyd

Bydd Cyngor Torfaen yn pleidleisio ar eu "cyllideb lymaf erioed" fore Mawrth.
Mae'r cyngor yn chwilio am lefydd i arbed £11.2 miliwn.
Mae'r gyllideb yn dod wedi misoedd o ddadlau a thrafod rhwng cynghorwyr, swyddogion a thrigolion y sir.
Fe fydd y rhan fwyaf o'r arbedion yn dod o doriadau i wasanaethau, cynydd yn ffioedd y cyngor, lleihau nifer y staff, a newidiadau i ddarpariaeth rhai gwasanaethau.
Mae hefyd yn cynnig codi treth cyngor 3.95% - tua £40 y flwyddyn i berchnogion tŷ Band D.
Byddai'r cynnydd hwn yn darparu £1.3 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau.
Bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw ar y we o 10:00yb ymlaen.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Bob Wellington: "Hwn yw'r gyllideb anoddaf i Gyngor Torfaen ei hwynebu erioed ac mae'n dilyn pum mlynedd o wneud arbedion sydd eisoes wedi'n gweld ni'n lleihau ein cyllideb o £33m.
"Yr hyn rydym yn ei gynnig ydi cyllideb sy'n diogelu ein hardaloedd o flaenoriaeth - ysgolion, gofal cymdeithasol a sbwriel, a lle mae arbedion yn gorfod cael eu gwneud, rydym wedi canolbwyntio ar leihau yn hytrach na diddymu gwasanaethau.
"Rydym hefyd wedi gweithio'n galed i gadw diswyddiadau i'r lleiafswm."