Cytundeb newydd i Ryan Bevington gyda'r Gweilch
- Published
Mae prop Cymru Ryan Bevington wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r Gweilch.
Bydd y cytundeb newydd yn ei gadw gyda'r rhanbarth am ddwy flynedd.
Ymunodd Bevington, 25, gyda'r Gweilch yn 2008 ac mae wedi chwarae 97 o weithiau iddyn nhw ers hynny.
Dywedodd y prop, sydd wedi ennill 13 o gapiau i Gymru, bod y penderfyniad i arwyddo yn un hawdd.
"I mi, doedd dim opsiwn arall i'w ystyried," meddai.
"Roeddwn i eisiau aros yma gan fy mod i'n meddwl mai dyma'r amgylchedd gorau i fi a fy uchelgeisiau hirdymor.
"Rydyn ni fel tîm yn uchelgeisiol ac am lwyddo, a dwi'n meddwl y gallwn ni dyfu fel tîm dros y blynyddoedd nesaf gyda'r grŵp o chwaraewyr ifanc sydd yma."
Bevington yw'r diweddaraf o nifer o chwaraewyr i arwyddo cytundebau gyda'r Gweilch, wedi i Alun Wyn Jones, Ashley Beck ac Eli Walker benderfynu aros gyda'r rhanbarth.
Mae'r prop Adam Jones wedi dweud ei fod yn debygol o aros yng Nghymru, ond nid oes sicrwydd os mai gyda'r Gweilch y bydd yn arwyddo, neu ar gytundeb canolog gydag undeb Rygbi Cymru.
Bydd chwaraewyr newydd hefyd yn ymuno â'r tîm y tymor nesaf, gan gynnwys y canolwr Josh Matavesi o Gaerwrangon a Dan Evans o'r Dreigiau.
Straeon perthnasol
- Published
- 25 Chwefror 2014
- Published
- 15 Chwefror 2014
- Published
- 24 Ionawr 2014