Galw tîm ffrwydriadau'r heddlu i'r Rhisga
- Cyhoeddwyd
Mae tîm yr heddlu sy'n delio gyda dyfeisiau ffrwydrol wedi cael ei alw i'r Rhisga, ger Casnewydd, wedi i aelod o'r cyhoedd fynd ac eitem amheus i'r orsaf heddlu yno.
Cafodd y tîm arbenigol ei alw am 10:36yb ac roedd adroddiadau bod nifer o ambiwlansys hefyd wedi cael eu galw i'r ardal.
Bu'n rhaid i bobl oedd yn byw'n gyfagos adael eu tai, ac fe gafodd cordon o 100 metr ei roi mewn lle o amgylch yr adeilad, sydd ar gornel Ffordd yr Orsaf a Stryd Tredegar.
Mae'r digwyddiad bellach drosodd.
Bydd yr heddlu'n rhyddhau gwybodaeth ynglŷn â natur y ddyfais yn y man.