Cyngor Castell Nedd yn cytuno ar doriadau
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Castell Nedd Port Talbot wedi cadarnhau codiad o 4.5% i'r dreth cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
O fis Ebrill ymlaen bydd pobl sy'n byw mewn eiddo Band D yn talu £1,312.60 y flwyddyn ar gyfartaledd.
Mae cynllun y cyngor ar gyfer arbed arian yn cynnwys diswyddiadau, cau naw o lyfrgelloedd, torri gwasanaethau trafnidiaeth i'r ysgol a thynnu grantiau oddi ar nifer o sefydliadau.
Mae'r cyngor yn dadlau nad oes ganddyn nhw ddewis ond gwneud y toriadau, gan bod gostyngiad i'w cyllideb gan Lywodraeth Cymru'n golygu bod rhaid arbed £17 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15.
Mae'r strategaeth ar gyfer arbed arian yn cynnwys cael gwared ar swyddi cyngor o fewn yr adrannau amgylcheddol, gwasanaethau corfforaethol ac adnoddau dynol.
Dyw'r cyngor ddim yn credu bod parhau i roi arian yn ystod y flwyddyn ysgol ar gyfer llefydd mewn meithrinfeydd yn "fforddiadwy rhagor", a bydd £160,000 arall yn cael ei arbed drwy newid y gwasanaeth sy'n hebrwng plant rhwng eu cartrefi a'r ysgol.
Yn ogystal byddan nhw'n gostwng yr arian maen nhw'n ei roi tuag at gynnal caeau mewn nifer o ysgolion.
Bydd sefydliadau gwirfoddol yn colli £135,000 a bydd cyllideb y theatrau'n colli £80,000.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Alun Thomas: "Hon oedd ein cyllideb fwyaf anodd erioed, o bell ffordd, gyda gostyngiadau mewn termau go iawn o 4.6% yn ein refeniw.
"Nid oedd modd osgoi toriadau anodd o ganlyniad i ymosodiad parhaus gan Lywodraeth y DU ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol.
"Er gwaethaf hynny, yn yr amgylchiadau, mae'r cynigion yn cynrychioli'r cydbwysedd gorau posib rhwng toriadau, cynyddu ffioedd a thaliadau a chynnal swyddi, gan ddiogelu pobl ddiamddiffyn a'n pobl ifanc i'r gorau y gallwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2013