BBC Cymru Fyw

Cynnig bonws Vincent Tan yn torri rheolau

Published
image copyrightBBC Sport
image captionMae Mr Tan yn ffigwr dadleuol ymysg cefnogwyr Caerdydd
Mae Uwch Gynghrair Lloegr wedi gofyn i glwb pêl-droed Caerdydd am esboniad, wedi adroddiadau bod y perchennog Vincent Tan wedi cynnig taliadau bonws i'w chwaraewyr, oedd yn torri rheolau.
Mae adroddiadau bod Mr Tan wedi cynnig £3.7 miliwn i chwaraewyr ar yr amod bod Caerdydd yn llwyddo i aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.
Ond cafodd y cynnig ei dynnu'n ôl, unwaith y cafodd Mr Tan wybod fod taliadau o'r fath yn mynd yn erbyn rheolau'r gynghrair.
Dywedodd llefarydd ar ran y gynghrair eu bod wedi "gofyn i'r clwb am eu harsylwadau" ynghylch y mater.
Mae rheolau'r gynghrair yn dweud bod holl fanylion yr arian sy'n ddyledus i chwaraewyr o dan wahanol amgylchiadau angen cael eu nodi mewn cytundeb.
Mae Caerdydd yn yr 19eg safle ar hyn o bryd, dau bwynt y tu ôl Sunderland sydd â dwy gêm mewn llaw dros yr Adar Gleision.

Straeon perthnasol

  • Dylai ffans Caerdydd ymddiheuro iddo, meddai Vincent Tan