Aberystwyth i agor campws yn Mauritius
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bwriad i agor campws ar ynys Mauritius, yng Nghefnfor India.
Y nod yw agor safle newydd ar gyfer 2,000 o fyfyrwyr, filoedd o filltiroedd i ffwrdd yn Quartier Militaire, a hynny erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2015.
Wrth weithio tuag at hynny, maen nhw'n gobeithio gallu cynnig pum rhaglen radd ar gyfer Medi 2014.
Byddai pedair o'r rhain yn raddau israddedig mewn:
- Cyfrifeg a Chyllid;
- Cyllid Busnes;
- Rheolaeth Busnes;
- Rheolaeth gyda'r Gyfraith.
Yn ogystal â gradd meistr MSc mewn Busnes Rhyngwladol.
'Cynlluniau uchelgeisiol'
Mae'r cynllun yn fenter ar y cyd gyda chwmni Boston Campus Limited, sydd wedi ei leoli yn CyberCity, Ebène, sydd rhyw 10 milltir i ffwrdd o'r brifddinas, Port Louis.
Byddai myfyrwyr ar y campws newydd yn derbyn yr un statws â myfyrwyr yn Aberystwyth, ac yn derbyn graddau'r brifysgol ar ddiwedd eu cyfnod yno.
Gan gyhoeddi'r bwriad, dywedodd is-ganghellor y brifysgol, yr Athro April McMahon: "Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda Boston Campus Ltd ar y datblygiad cyffrous hwn.
"Mae Mauritius ar y groesffordd rhwng cyfandiroedd Affrica ac Asia ac mewn lleoliad delfrydol i ddenu myfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno dilyn addysg prifysgol o safon uchel, ond heb fedru teithio i'r Deyrnas Gyfunol.
"Mae'r wlad hefyd yn mwynhau sefydlogrwydd gwleidyddol ac yn cynnig amgylchedd diogel i fyfyrwyr rhyngwladol.
"Mae cynlluniau uchelgeisiol gan Lywodraeth Mauritius i sefydlu'r wlad fel canolbwynt gwybodaeth ryngwladol a denu 100,000 o fyfyrwyr i astudio yno dros y 10 mlynedd nesaf.
"Yr ydym ni ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych ymlaen at weithio gyda Gweinidogaeth Addysg Drydyddol, Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thechnoleg y Llywodraeth, a Boston Campus Ltd er mwyn eu cynorthwyo i wireddu'r weledigaeth hon."
Fel rhan o'r cynlluniau, byddai staff academaidd o Aberystwyth a'r campws newydd yn treulio amser yng nghyfleusterau'r brifysgol yn y wlad arall.
Byddai cyfle hefyd i fyfyrwyr drosglwyddo o Aberystwyth i Mauritius, gan gael dewis o ba le fyddan nhw'n mynychu'u seremoni raddio.