Dim TAW ar dollau'r Hafren

Ni fydd treth ar werth (TAW) yn cael ei hychwanegu ar dollau croesi Pont Hafren pan fydd yn dychwelyd i gyfrifoldeb Llywodraeth Prydain, yn ôl yr Adran Drafnidiaeth.
Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth yn San Steffan, Robert Goodwill, wedi dweud y bydd y consesiwn preifat ar y bont yn dod i ben yn 2018.
Ond dywedodd y byddai'n dal i gymryd hyd at ddwy flynedd i dalu dyledion eraill gwerth £88 miliwn.
Mi fydd tollau Pont Hafren yn cael eu trafod yn San Steffan brynhawn Mercher.
Aelod Seneddol Dwyrain Casnewydd dros Lafur, Jessica Morden, sy'n arwain y drafodaeth.
Croesawu'r newyddion
Mae Aelod Seneddol Mynwy, David Davies, wedi croesawu'r newyddion a ddaeth mewn llythyr gan Mr Goodwill, ond fe nododd nad oedd wedi dweud y byddai prisiau'r tollau yn gostwng.
Mae'r tollau'n amrywio ar hyn o bryd o £6.40 i geir i £19.20 i lorïau, ac mae 20% ohono yn dreth ar werth.
Yn y llythyr at Mr Davies, sydd hefyd yn cadeirio'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan, dywedodd Mr Goodwill:
"Unwaith y bydd o dan berchnogaeth gyhoeddus, ni fydd yn rhaid talu TAW ar y tollau.
"O dan ddeddf Pontydd Hafren 1992, fe fyddai'n bosib gostwng y tollau i adlewyrchu'r ffaith na fyddai'n rhaid talu TAW bellach."
Dywedodd Mr Davies bod y llythyr yn dilyn cyfarfod gyda'r gweinidog fis diwethaf, lle roedd ASau eraill sydd ar y pwyllgor yn bresennol.
"Fe fyddai pob un ohonom ni'n hoffi gweld rhywbeth yn digwydd i ostwng cost y tollau," meddai.
"Yn anffodus, dydy'r gweinidog heb ddweud prun ai a fyddai'r tollau'n gostwng, a dyma'r pwynt yr hoffwn ni ei godi gyda'r llywodraeth."
Dywedodd Mr Davies bod y pwyllgor yn disgwyl i gostau cynnal y pontydd fod tua traean o bris presennol y tollau presennol a bod "neb wedi gwrthddweud hyn".
"'Dw i felly'n credu bod angen i ni fynnu cynllun clir ar gyfer y cyfnod heibio'r consesiwn gyda gostyngiad sylweddol yn y tollau", meddai.
Fis diwethaf, roedd galwadau gan bob plaid i'r tollau gael eu gostwng yn llym o 2018 ymlaen.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar reolaeth y tollau gael eu datganoli.