Dynes wedi llithro ar yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd

Mae timau achub mynydd wedi achub dynes a llithrodd 100 metr ar yr Wyddfa b'nawn Mawrth.
Mae'n debyg bod y wraig 31 oed, o ardal Llundain, yn agos i'r copa pan lithrodd hi, a'i bod yn gaeth ar graig.
Fe barodd yr ymdrech i'w hachub oddeutu pump awr, yn ôl cadeirydd tîm achub mynydd Llanberis, John Grisdale.
Roedd Heddlu'r Gogledd wedi cael eu galw am 14.45 ac fe gafodd y wraig ei chludo o'r mynydd mewn hofrennydd tua 19.30.
Mae'n debyg ei bod wedi anafu ei phelfis ac mae erbyn hyn yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Dywedodd Mr Grisdale bod tua 18 o aelodau o dîm achub mynydd Llanberis ac Aberglaslyn yn ogystal ag aelodau o dîm yr RAF wedi helpu i gario'r wraig i lawr o'r mynydd cyn iddi wedyn gael ei chludo mewn hofrennydd.
Roedd cymylau isel wedi gwneud hi'n amhosib i'r hofrennydd gyrraedd y copa felly fe gafodd yr aelodau eu cludo mor agos â phosib i fyny'r mynydd.
Roedd y wraig, oedd yn mynydda gyda ffrind, wedi cyrraedd y copa ond wedi llithro ar eira caled a rhew wrth geisio dod i lawr.
Doedd ganddi ddim offer arbenigol gyda hi, yn ôl Mr Grisdale, offer fyddai wedi gallu'i helpu i ddringo'r mynydd yn ddiogel mewn tywydd gaeafol.