John Owen i wynebu cyhuddiadau
- Cyhoeddwyd

Fe ymddisywddodd John Owen fel crwner yn 2011
Mae cyn grwner Sir Gâr, John Owen, wedi cael gorchymyn i ymddangos gerbron llys i wynebu cyhuddiadau.
Cafodd Mr Owen ei wahardd o'i waith fel cyfreithiwr gan yr awdurdod nôl ym Medi 2011, ac mae'r heddlu'n dweud bod yr honiadau mae'n ei wynebu yn ymwneud â'i waith fel cyfreithiwr.
Fe wnaeth Mr Owen ymddiswyddo o'i swydd fel crwner ar Medi 30, 2011 a chafodd ei arestio gan yr heddlu ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno.
Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Pen-y-bont ar Ogwr yn hwyrach y mis hwn, lle mae disgwyl iddo gael ei gyhuddo o ladrad.
Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, mae Mr Owen wedi bod yn destun ymchwiliad gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ers dwy flwyddyn a hanner.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2011
- Cyhoeddwyd21 Medi 2011