Cyngor Torfaen yn cytuno ar doriadau
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Torfaen wedi pasio eu cyllideb ar gyfer 2014/15, gyda phenderfyniad i godi treth cyngor 3.95%.
Mae hyn yn gyfystyr â chynnydd o £40 y flwyddyn ar gyfer eiddo Band D a bydd yn codi £1.3 miliwn ychwanegol i'r cyngor wrth iddyn nhw geisio arbed £11.2 miliwn.
Er mwyn gwneud yr arbedion hyn, mae'r cyngor yn bwriadu torri nifer o wasanaethau a gostwng lefelau staffio.
Bydd swyddi gwag yn cael eu hasesu er mwyn gweld os oes modd eu cadw'n wag, er bod y cyngor yn cydnabod y bydd hyn yn "effeithio ar bwysau gwaith a pherfformiad".
'Penderfyniadau anodd'
Mae Arweinydd Cyngor Torfaen, Bob Wellington, yn dweud bod y cyngor wedi gorfod cymryd penderfyniadau anodd.
"Rydym wedi bod yn agored a thryloyw gyda thrigolion a chynghorwyr ynglŷn â maint yr her," meddai, "ond hwn yw'r gyllideb anoddaf mae Cyngor Torfaen erioed wedi ei wynebu wrth iddo ddilyn pum blwyddyn o arbedion sydd eisoes wedi gweld ein cyllideb yn syrthio £33 miliwn.
"Yr hyn rydyn yn ei gynnig yw cyllideb sy'n amddiffyn ein blaenoriaethau sef ysgolion, gofal cymdeithasol a gwastraff a pan mae arbedion wedi gorfod cael eu gwneud, rydym wedi canolbwyntio ar leihau yn hytrach na thorri gwasanaethau.
"Rydym hefyd wedi gweithio'n galed er mwyn torri cyn lleied o swyddi âg sy'n bosibl.
"Mae darganfod y math yma o arbedion yn amhosibl heb gymryd penderfyniadau anodd ond rydym yn ffyddiog bod ein cynigion yn deg, cytbwys ac yn amddiffyn ein gwasanaethau pwysicaf."
Toriadau
O fewn gwasanaethau cymdeithasol bydd £100,000 yn cael ei arbed drwy leihau'r lefel o ofal statudol sy'n cael ei ddarparu i oedolion, a £200,000 pellach drwy leihau nifer y bobl sy'n gymwys i'w dderbyn.
Yn ogystal bydd £350,000 yn cael ei arbed drwy gael gwared ar 15 o swyddi o fewn yr adran adnoddau, drwy ymddiswyddo gwirfoddol a chyfuno swyddi.
Bydd y cyngor yn arbed £300,000 arall drwy orfodi clybiau chwaraeon i gymryd y cyfrifoldeb dros eu caeau chwarae eu hunain.
Ni fydd y gwasanaeth llyfrgell symudol yn cael ei adnewyddu wedi i'r cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gyrraedd diwedd ei oes, fydd yn golygu y bydd ei ymweliadau ag ysgolion yn dod i ben.
Bydd y cyngor yn torri 20% o'r grantiau diwylliannol, newid fydd yn effeithio ar y Theatr Congress, Neuadd Gweithwyr Blaenafon, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam ac Amgueddfa Pontypwl.
Mae'r gwasanaeth difa llygod mawr a phlâu eraill am ddim ar hyn o bryd, ond bydd raid i bobl dalu'n y dyfodol.
O ran gwasanaethau economaidd ac amgylcheddol, bydd £250,000 yn cael ei dorri drwy leihau'r grantiau mae nifer o sefydliadau yn ei dderbyn.
Mae'r rhain yn cynnwys cyrff sy'n darparu gwasanaethau addysgiadol a theithiau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2014