Ymchwiliad Watkins: Cyhuddo dynes

  • Cyhoeddwyd
Mjadzelics
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Ms Mjadzelics yn Llys Ynadon Caerdydd ar Fawrth 21

Mae dynes 38 oed yn wynebu cyhuddiadau'n ymwneud â lluniau anweddus o blant oherwydd ymgyrch yr heddlu i gyn-ganwr y Lostprophets Ian Watkins.

Oherwydd Ymgyrch Globe mae Joanne Mjadzelics yn wynebu pedwar cyhuddiad o feddu ar luniau anweddus o blant a dau gyhuddiad o ddosbarthu llun anweddus.

Mae un cyhuddiad pellach yn ymwneud â honiad ei bod hi wedi annog rhywun arall i ddosbarthu llun anweddus o blentyn.

Dywedodd Suzanne Thomas, Uwcherlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru: "Fel rhan o ymchwiliad ehangach, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cael cais gan Heddlu De Cymru i adolygu tystiolaeth yn ymwneud â throseddau honedig gafodd eu cyflawni gan Joanne Mjadzelics.

"Rydw i wedi adolygu'r dystiolaeth o dan god Erlynwyr y Goron ac wedi casglu bod tystiolaeth ddigonol a'i bod er lles y cyhoedd i gyhuddo Joanne Mjadzelics, pedwar cyhuddiad o fod â llun anweddus yn ei meddiant, dau gyhuddiad o ddosbarthu llun anweddus ac un cyhuddiad o annog rhywun arall i ddosbarthu llun anweddus.

"... mae hi wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth i ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd ar Fawrth 21."