Jonathan Davies ac Alun Wyn Jones yn dechrau i Gymru
- Cyhoeddwyd

Bydd canolwr y Scarlets, Jonathan Davies yn dechrau ei gêm gyntaf i Gymru ers mis Tachwedd pan fydd tîm Warren Gatland yn wynebu Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul.
Cafodd Davies anaf i'w frest yn ystod gêm Cymru yn erbyn De Affrica yng Nghyfres yr Hydref, ac nid yw wedi chwarae dros ei wlad ers hynny.
Mae hwb pellach i'r tîm gurodd Ffrainc pythefnos yn ôl wrth i Alun Wyn Jones ddychwelyd i'r ail reng wedi anaf i'w droed.
Mae Rhys Webb wedi cadw ei le yn safle'r mewnwr, wedi iddo wneud argraff yn ei gêm gyntaf yn erbyn Ffrainc.
Tîm Profiadol
Gyda Davies yn dychwelyd i ganol y cae wrth ochr Jamie Roberts, bydd George North yn symud yn ôl i'r asgell a Liam Williams yn dechrau ar y fainc.
Leigh Halfpenny fydd yn safle'r cefnwr ac Alex Cuthbert ar yr asgell.
Yn yr haneri, maswr y Scarlets Rhys Priestland sy'n dechrau gyda Rhys Webb.
Mae enwau cyfarwydd y blaenwyr yn dod a llawer o brofiad i dîm Cymru, fydd yn gobeithio am berfformiad cryf arall yn dilyn eu buddugoliaeth dros Ffrainc.
Mae un o hyfforddwyr Lloegr, Graham Rowntree wedi rhybuddio ei dim i fod yn barod am reng flaen "bwerus" Cymru; Gethin Jenkins, Richard Hibbard ac Adam Jones.
Dywedodd Rowntree, sydd wedi gweithio gyda'r tri gyda'r Llewod, bod Lloegr yn wynebu her enfawr yn eu herbyn.
"Roeddwn i wedi mwynhau gweithio gyda nhw. Maen nhw'n bwerus iawn, wedi ei drilio, a gyda llawer o brofiad."
'Lefel arall'
Partner Alun Wyn Jones yn yr ail reng fydd Luke Charteris, tra bod reng ôl sy'n cynnwys Taulupe Faletau, Sam Warburton a Dan Lydiate yn cwblhau'r tîm.
"Mae'n wych cael Jon ac Alun Wyn yn ôl ac maen nhw'n dod i mewn i dîm profiadol iawn," meddai Gatland.
"Daeth Jon drwy'r gêm yn dda dros y penwythnos [yn chwarae i'r Scarlets yn erbyn Munster].
"Mae o'n barod i fynd. Roedden ni'n hapus gyda'r ymateb a'r perfformiad yn erbyn Ffrainc ond rydyn ni'n gwybod bod angen i ni godi i lefel arall ddydd Sul.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael mynd i fyny i Twickenham, mae Lloegr wedi perfformio yn dda hyd yn hyn, felly gall hi fod yn gêm dda gyda phopeth i chwarae amdano."
Lloegr v Cymru, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, Mawrth 8, 15:00
Leigh Halfpenny (Gleision), Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Northampton Saints), Rhys Priestland (Scarlets), Rhys Webb (Gweilch); GethinJenkins (Gleision), Richard Hibbard (Gweilch), Adam Jones (Gweilch), Luke Charteris (Perpignan), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton (Capt - Gleision), Taulupe Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Paul James (Caerfaddon), Rhodri Jones (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Dan Biggar (Gweilch), Liam Williams (Scarlets).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2014