Lloegr dan-21 1-0 Cymru dan-21
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, PA
Roedd hi'n ganlyniad agos ond yn y diwedd colli o 1-0 wnaeth tîm dan 21 Cymru yn erbyn Lloegr yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Euro 2015.
Sgoriodd asgellwr Norwich, Nathan Redmond, unig gôl y gêm 12 munud ar ôl yr egwyl yn Stadiwm iPro, Derby.
Daeth cyfle gorau Cymru i Jack Butland, ond aeth ei ergyd heibio'r postyn.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Lloegr yn aros at frig y grŵp.
Mae Cymru yn y trydydd safle tri phwynt y tu ôl i Moldova gyda gêm mewn llaw.
Bydd dau dîm o'r grŵp yn mynd i'r rowndiau terfynol.
Straeon perthnasol
- 11 Hydref 2013
- 10 Medi 2013
- 14 Awst 2013