Cymdeithas yr Iaith yn protestio yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod 12 o ymgyrchwyr wedi clymu eu hunain â chadwyni i glwydi adeilad Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth.
Mae'r protestwyr yn dweud eu bod wedi cael "llond bol ar ddiffyg gweithredu" Llywodraeth Cymru yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi eu galw i ddigwyddiad ar Rodfa Padarn yn y dref.
Cafodd protest debyg ei chynnal yn Llandudno ym mis Chwefror.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae'r brotest yn un o nifer sydd wedi eu trefnu er mwyn "pwyso ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg".
Wedi cyhoeddiad casgliadau'r Gynhadledd Fawr y llynedd mae aelodau yn galw ar y llywodraeth i weithredu argymhellion.
Roedd y rhain yn cynnwys mwy o fuddsoddiad, newidiadau i addysg Gymraeg a newidiadau i gyfraith cynllunio.
Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad iaith Cen Llwyd: "Rydyn wedi cael llond bol ar ddisgwyl ymateb cadarn a chlir gan Carwyn Jones.
"Mae pawb call yn derbyn bod argyfwng yn wynebu'r iaith ond dyw'r llywodraeth dal ddim yn gwneud dim.
"Rydyn ni barhau i obeithio y gwelwn ni newid cadarnhaol achos gydag ewyllys gwleidyddol, gallai'r iaith ffynnu dros y blynyddoedd i ddod.
"Ymhell dros flwyddyn ers canlyniadau'r Cyfrifiad, mae diffyg gweithredoedd y llywodraeth yn chwerthinllyd."
Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- 17 Chwefror 2014
- 9 Hydref 2013