Twf sylweddol ym maint yr allforion gan gwmnïau o Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau newydd yn dangos twf sylweddol ym maint yr allforion gan gwmnïau o Gymru yn ystod y 12 mis diwethaf.
Yn ôl ffigyrau Llywodraeth y DU, mae allforion o Gymru wedi cynyddu £1.5bn dros y flwyddyn ddiwethaf i £14.8bn.
Mae hyn yn gynnydd o 11% - o gymharu â chynnydd o 1.4% mewn allforion o ardaloedd eraill o Brydain.
Ond yn ôl rhai, daw'r cynnydd wedi cyfnod o ddiffyg hyder yng ngwaith Llywodraeth Cymru wrth hybu allforion.
Prif bartner allforion Cymru ydi'r Unol Daleithiau, sydd wedi gweld cynnydd o £43m mewn allforion o Gymru yn y 12 mis diwethaf.
Gweriniaeth Iwerddon ydi ail bartner allforion mwyaf Cymru, gyda'r Emiradau Arabaidd Unedig yn y trydydd safle.
Yn ôl Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, Carwyn Jones: ''Mae ffigyrau heddiw yn ychwanegu at y rhestr gynyddol o arwyddion sydd yn awgrymu fod economi Cymru yn perfformio'n well na gweddill y Deyrnas Unedig.''
Yn ôl y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart: "Yn ogystal â chynorthwyo cwmnïau i allforio ar hyd y byd, mae ein hymdrechion diflino i hybu Cymru wedi creu twf sylweddol mewn buddsoddiad tramor uniongyrchol, sydd wedi cynyddu 191% dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, o'i gymharu â 10% yn unig yn Lloegr a 16% yn yr Alban.''
Newid cywair
Mae Eifion Griffiths yn rheolwr gyfarwyddwr ar gwmni Melin Tregwynt yn Sir Penfro, ac yn allforio nwyddau gwlân dramor.
Mae'n credu fod y cymorth sydd wedi bod ar gael gan Lywodraeth Cymru i allforio wedi bod yn anghyson dros y blynyddoedd diwethaf, er bod arwyddion fod y sefyllfa wedi gwella. Fe ddywedodd wrth BBC Cymru:
''Roedd hi'n anodd am gyfnod i gael penderfyniad pendant am y cymorth oedd ar gael i fynd ar deithiau gwerthu rhyngwladol gan Lywodraeth Cymru. Y broblem oedd cael yr 'OK' yn sydyn. Mae busnesau angen cynllunio am y tymor hir a doedd pethau ddim mor drefnus o ran y cymorth gweithredol - er bod cymorth ariannol ar gael.
''Roedd y cymorth yn anghyson, gyda pholisïau yn cael eu penderfynu ar y top, ond roedd hi'n anodd gwybod beth oedd i fod i ddigwydd ar lawr gwlad. Roedd hyn yn gwneud hi'n anodd i fusnes gynllunio ymlaen llaw.''
Bellach mae Eifion Griffiths yn credu fod newid cywair wedi bod:
''Ar un amser roedd yr holl system wedi diflannu, ond mae cymorth i fynd ar deithiau allforio tramor wedi dod yn ôl rwan - mae cymorth ar gael i fynd i sioeau gwerthu rhyngwladol - felly da ni'n ddiolchgar am yr help sydd ar gael. Mi fyddwn ni'n mynd ar daith allforio i'r Unol Daleithiau ym mis Mai.''
Y prif adnoddau a gafodd eu hallforio dros y 12 mis diwethaf o Gymru oedd peiriannau ac offer ar gyfer diwydiannau cludiant.