Cofio'r 'urddas'
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
- Cyhoeddwyd

Gogledd Celynnen, y Marine, Deep Navigation, Cynheidre, Abernant, y Bers a'r gweddill. Hyd heddiw, medraf enwi bob un o'r 30 o lofeydd oedd yng Nghymru ar ddechrau'r 1980au.
Rwy'n weddol sicr fy mod wedi recordio darnau i gamera y tu allan i bob un ohonyn nhw ac eithrio un yn ystod y flwyddyn a mwy y parodd y streic. Y Parlwr Du yn Ffynnongroyw, Sir y Fflint, yw'r eithriad.
I newyddiadurwyr fy nghenhedlaeth i, roedd y streic fawr yn brofiad bythgofiadwy ond yn y degawdau ers ei diwedd mae mytholeg wedi datblygu yn ei chylch sy'n dyrchafu hi'n rhywbeth fwy nag oedd hi.
Heb os, roedd tranc y diwydiant glo - y diwydiant roes fodolaeth i'r Gymru fodern - yn ddigwyddiad o bwys hanesyddol. Ond mae'n debyg y byddai'r diwedd wedi dod, streic ai peidio, er efallai mewn ffordd llai creulon a disymwth.
'Llond dwrn o bicedwyr'
Mae 'na gred gyffredinol erbyn hyn bod y streic yn ddigwyddiad cyffrous, gyda gwrthdaro cyson rhwng y glowyr a'r heddlu, a'r rheiny oedd yn streicio a'r rheiny oedd ddim.
Dyw hynny ddim yn wir chwaith. Yn fan hyn a fan draw, ac mewn amgylchiadau penodol, y cafwyd gwrthdaro.
Yn ne Cymru, tan wythnosau ola'r streic, llond dwrn o bicedwyr oedd yn sefyll y tu fas i'r gweithfeydd wrth iddi wawrio ac, yn aml iawn, roedd y rheiny wedi cyrraedd gartref erbyn amser brecwast.
Disgrifiwyd y Rhyfel Byd Cyntaf fel "months of boredom punctuated by moments of terror" mewn un dyfyniad enwog.
Rhywbeth felly oedd y streic hefyd - misoedd hesb lle doedd fawr ddim yn digwydd ac yna gwrthdaro wrth i ryw ymdrech neu'i gilydd gael ei wneud i geisio torri'r streic.
'Urddas'
Mae'n hawdd deall pam oedd y streicwyr mor benderfynol o geisio rhwystro'r confois glo o Bort Talbot i Lanwern neu'r cynffonwyr cyntaf rhag croesi'r llinellau piced. Ond rhaid cofio hefyd mai methiant fu'r rhan fwyaf o'r ymdrechion hynny.
Wrth feddwl yn ôl ynghylch y streic, y gair sy'n dod i'r meddwl yw urddas. Urddas Phillip Weekes, cyfarwyddwr Maes Glo'r de yn ceisio sicrhau nad oedd y streic yn rhwygo teuluoedd a chymunedau. Urddas y gwragedd yn ciwio yn y banciau bwyd - pethau na welwyd yng Nghymru er y 1930au ond sydd, gresyn, wedi dychwelyd eto yn ein dyddiau ni. Yn bennaf, meddyliaf am urddas dynion y Maerdy a Phenrhiwceibr - y ddwy lofa oedd yn gadarn tan y diwedd.
Yn y Maerdy yr oedd y rhan fwyaf o'r wasg a'r camerâu ar y diwrnod yr aeth y dynion yn ôl i'r gwaith.
Roedd dynion "little Moscow" wedi penderfynu gorymdeithio yn ôl i'r pwll y tu ôl i fand pres a baner y gyfrinfa.
Ym Mhenrhiwceibr yr oeddwn i ar y bore hwnnw ac roedd y dychweliad yno'n fwy anffurfiol. Roedd 'na urddas yn perthyn iddo, serch hynny. Cerddodd y dynion mewn â'u pennau'n uchel.
Roedd hynny ar y trydydd o Fawrth, 1985. Caewyd y pwll ar yr wythfed o Hydref.