Pobol y Cwm: Ymateb i'r toriadau
- Cyhoeddwyd

Wedi'r cyhoeddiad gan S4C a'r BBC y bydd llai o rifynnau o Pobol y Cwm yn cael eu darlledu yn wythnosol, amrywiol fu'r ymateb ddydd Iau.
Dyma oedd prif bwnc rhaglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru.
Ni fydd y rhifyn omnibws yn cael ei ddarlledu dros y penwythnos, ac fe fydd un o'r pum rhifyn nosweithiol yn ystod yr wythnos hefyd yn diflannu o'r sgrin.
Fe fydd y gyfres hefyd yn cymryd seibiant o wythnos ddwywaith y flwyddyn.
Ar Taro'r Post, dywedodd Dyfrig Jones, darlithydd yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor nad oedd y cyhoeddiad yn sioc: "Do'n i ddim synnu, dwi'n meddwl ei fod o'n doriad hollol gall i'w wneud...
'Cyfrifoldeb'
"Mae hi'n un o raglenni mwya' poblogaidd S4C ond rhaid i ni gofio mai darlledwr cyhoeddus ydi S4C sydd 'efo cyfrifoldeb nid yn unig i wneud rhaglenni poblogaidd, ond i gynnig darpariaeth eang o raglenni sy'n gallu cyrraedd pawb.
"Dwi'n anghytuno fod Pobol y Cwm yn rhaglen i bawb. Dw i heb ei gwylio hi'n gyson ers pan oeddwn i'n blentyn bach. Ychydig iawn o bobl yn fy nghylch cymdeithasol i - Cymry Cymraeg yn eu tridegau - sy'n ei gwylio hi...
"Dydy dynion yn eu tridegau ddim yn garfan bwysig yng nghynulleidfa operâu sebon...
"Mae o'n gwneud synnwyr o ran cadw cydbwysedd y sianel i dynnu un bennod yn ôl oddi ar S4C, a ma' hwnnw am ryddhau arian i'w ail fuddsoddi i fathau gwahanol o raglenni."
Yn ôl Iestyn Garlick o fudiad TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru), ddyle ni ddim "colli golwg", gan fod y penodau yn cael eu hail ddarlledu am 6.30pm beth bynnag.
Fe wnaeth o hefyd groesawu'r newyddion y bydd peth o'r arian fydd yn cael ei arbed yn mynd at waith drama ac i'r cwmnïau annibynnol.
'Diddorol iawn'
Ychwanegodd Mr Garlick: "Mae Pobol y Cwm yn gyson yn y pum rhaglen ucha' yn y rhestr o raglenni sy'n cael eu gwylio. Mae'r ffigyrau hynny'n seiliedig ar raglenni dydd Mawrth... Mercher... dydd Sul... Wedyn maen nhw'n rhoi'r rheiny at ei gilydd a dod allan 'efo ffigwr.
"Fe fydd hi'n ddiddorol iawn gweld be' fydd y ffigwr o ddifri'."
Meddai Lowri Haf Cooke, sy'n ysgrifennu llyfr i ddathlu 40 mlynedd o Pobol y Cwm, mae hi'n poeni y bydd colli'r rhifynnau yn "gostwng safon yr orsaf yn gyffredinol".
Ond wedi iddi gael "cyfle i adlewyrchu", meddai Lowri, "falle bod hyn yn golygu gofod anadlu i gyfres, i sicrhau codi ei safon hi ac archwilio i'r straeon."
Oen aberthol?
Ychwanegodd Lowri ei bod hi'n pryderu am ragor o doriadau yn y dyfodol: "Dw i'n ofni fod hwn yn benderfyniad sydd yn cynrychioli mai PyC yw'r oen aberthol 'falle fydd yn gyfiawnhad dros benderfyniadau llawer iawn mwy niweidiol ymhen dwy flynedd."
Roger Williams yw cadeirydd Undeb yr Ysgrifenwyr ym Mhrydain. Fe ddywedodd o fod aelodau'r undeb yn teimlo "siom a gofid" yn dilyn y cyhoeddiad, gan y byddai'n "newid telerau gwaith a chytundeb". Ychwanegodd bod pryder ymysg yr aelodau am gytundebau sydd eisoes wedi eu harwyddo.
Fe ddaw'r rhifyn omnibws i ben ym mis Medi, ac fe fydd un rhifyn bob wythnos yn cael ei diddymu yn Ionawr 2015.
Rŵan, mae staff ac actorion y rhaglen yn cwrdd â BBC Cymru ac S4C i drafod y camau nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2014