Plaid yn ystyried cynllun gofal plant

  • Cyhoeddwyd
Plant
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r blaid yn dweud eu bod eisiau darparu gofal plant fforddiadwy i bawb

Mae Plaid Cymru'n ystyried cynllun fyddai'n gweld addysg Cyfnod Sylfaen yn cael ei gynnig i bob plentyn rhwng tair a phedair oed.

Ar hyn o bryd mae'r addysg sydd ar gael yn rhan amser.

Mae'r cynnig, fyddai'n costio rhyw £300 miliwn, yn un o'r opsiynau gofal plant mae'r blaid yn ymgynghori yn eu cylch ar gyfer etholiadau Cynulliad 2016.

Yn ôl Plaid Cymru, gwella gofal plant yw'r ffordd orau o roi cyfle teg i bob plentyn. Maen nhw'n dweud y byddai'r cynllun hefyd yn galluogi rhieni i fynd i weithio.

Mae'r opsiynau eraill sydd dan ystyriaeth yn cynnwys "ychwanegu at y deg awr bresennol o le ar y Cyfnod Sylfaen sy'n cael ei gynnig i blant tair a phedair oed gydag ugain awr o ofal plant am ddim, a chynnig deg awr o ofal plant am ddim i blant tair oed ar ben y deg awr o le ar y Cyfnod Sylfaen am ddim ac ugain awr o ofal plant am ddim i blant dwyflwydd oed".

'Cam pwysicaf'

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas: "Buddsoddi mewn addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd da yw'r ffordd orau i wella ffawd economaidd Cymru.

"Os gallwn gael hynny'n iawn, gallwn wneud cyfle plant mewn bywyd yn gyfartal, fel na fydd dim ar eu ffordd rhag cyrraedd eu potensial. Dengys ymchwil y gallai hyn godi GDP Cymru o 4%, sydd yn gynnydd enfawr.

"Yn ogystal â bod yn dda i blant, mae hyn yn dda i rieni hefyd. Mae gofal plant yn aml yn cael ei roi fel un o'r prif resymau fod rhieni yn teimlo na allant ddychwelyd i waith. Ond bydd mynediad am ddim at addysg blynyddoedd cynnar yn galluogi rhieni i ddychwelyd i waith heb orfod gwneud penderfyniadau anodd ar ofal plant.

"Mae gofal plant da yn ddrud, ond efallai mai hwn yw'r cam pwysicaf a gymerwn i gryfhau'r economi."