TGAU Saesneg: galw am ail-ystyried cyrsiau newydd

Gareth Pierce
Image caption Mae Gareth Pierce o CBAC wedi awgrymu bod newidiadau i'r cwrs Saesneg wedi cael eu cyflwyno yn rhy gyflym

Mae pennaeth bwrdd gosod arholiadau mwyaf Cymru, CBAC, wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru ail-ystyried cyflwyno nifer o gyrsiau TGAU newydd fis Medi nesaf.

Daw sylwadau Gareth Pierce ar ôl i nifer o benaethiaid godi pryderon am farciau annisgwyl o isel yn y canlyniadau TGAU Saesneg Iaith yr oedd disgyblion wedi eu sefyll fis Ionawr.

Mae Mr Pierce wedi dweud ei fod yn amau pa mor ddoeth fyddai cyflwyno llu o newidiadau eraill yn sgil hyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cymwysterau newydd wedi eu cynllunio i godi safonau a bod yn fwy llym - a'u bod yn bwriadu eu cyflwyno yn ôl y disgwyl.

Bydd y llywodraeth yn cydweithio gyda CBAC ac ysgolion yn ystod yr wythnosau nesaf i geisio edrych ar unrhyw elfennau allai fod wedi gallu effeithio ar ganlyniadau'r myfyrwyr oedd wedi sefyll arholiadau ym mis Ionawr, yn ôl llefarydd.

Dywedodd Gareth Pierce wrth BBC Cymru: "Gan fod athrawon yn ymdopi ag un newid nawr sy'n amlwg yn her mae yna gwestiwn ynglŷn â pha mor gyflym ddylai unrhyw newid arall ddod rwy'n credu.

"Mae yna gyfres o newidiadau wedi eu bwriadu i fathemateg, Cymraeg, Saesneg a'r fagloriaeth felly, rhyngddyn nhw maen nhw'n cynrychioli swmp mawr o brofiad Blwyddyn 11.

"Felly mae yna gwestiwn o fod angen gofal efallai o ran yr amserlen."

Sefyllfa 'hollol anffodus'

Wrth siarad ar raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales fe ddywedodd Angela Burns AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, fod angen i Lywodraeth Cymru oedi cyn bwrw ymlaen gydag unrhyw newidiadau pellach i gymwysterau TGAU am y tro.

Fe ddywedodd: ''Mae hon yn sefyllfa hollol anffodus. Mae gen i gydymdeimlad mawr gyda'r farn y dylid oedi cyn gweithredu newidiadau.

''I fod yn hollol glir, rydyn ni angen cymwysterau fydd yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol.

"Mae Cymru wedi penderfynu dilyn ei thrywydd ei hun, ac mae Llywodraeth Cymru yn dymuno cael system gymwysterau gwbl annibynnol, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siwr fod hyn yn mynd yn ei flaen yn ddi-drafferth, achos heddiw mae hyder ac enw da'r system addysg yng Nghymru wedi ei niweidio."

Aeth yn ei blaen i alw am gorff annibynnol i reoleiddio cymwysterau addysg yng Nghymru: ''Mae'r Llywodraeth eisiau bod yn gyfrifol am asesu a gosod y cymwysterau, ac maen nhw wedyn yn bwriadu rheoleiddio'r cymwysterau hyn.

''Fel y gwyddoch chi, rydw i wedi galw - o'r cychwyn cyntaf - am arolygwr annibynnol i edrych ar hyn achos, yn y pen draw, yr unig beth sydd yn bwysig pan mae ein plant yn ymgeisio am swyddi ydi fod pobl yn gallu edrych ar eu cymwysterau a dweud - 'dwi'n gweld fod gen ti gymhwyster TGAU ac mi wyddwn ni fod arholiadau yng Nghymru o safon uchel ac fe allai ddibynnu ar dy sgiliau.''

'Angen ymchwilio'

Bydd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas yn cyflwyno cwestiwn brys yn y Cynulliad am y canlyniadau'r wythnos nesaf.

Ar y Post Cyntaf, dywedodd: "Byddwn i ddim yn oedi heblaw bod tystiolaeth ddifrifol bod rhywbeth o'i le, felly dwi am weld dadansoddiad, ymchwiliad, fyddwn ni'n codi'r peth yr wythnos nesaf yn y Cynulliad mae'n sicr, ac wedyn gweld y ffordd ymlaen o hynny.

"Does dim tystiolaeth bod angen oedi eto, ond mae hynny'n bosibiliad os yw tystiolaeth yn pwyntio yn y ffordd yna."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn gweithio gyda CBAC ac ysgolion dros yr wythnosau nesaf i ddeall y problemau all fod wedi effeithio'r canlyniadau gafodd myfyrwyr yn yr arholiadau fis Ionawr.

"Yn dilyn yr adolygiad annibynnol o gymwysterau rydyn ni wedi sefydlu rhaglen i drawsnewid cymwysterau yng Nghymru - i wella cywirdeb a chodi safonau - ac rydyn ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r newidiadau."

'Siomi'n ofnadwy'

Mae nifer o rieni, disgyblion ac athrawon wedi cysylltu gyda BBC Cymru i ddatgan eu siom a'u pryder ynghylch canlyniadau Saesneg TGAU mis Ionawr.

Roedd y graddau gafodd eu gwobrwyo ar gyfer yr arholiad Saesneg yn "llawer is na'r disgwyl," yn ôl undebau athrawon.

Fe ddywedodd un rhiant bod ei merch wedi ei "siomi'n ofnadwy" wedi iddi dderbyn graddau D ac E, a hithau "yn derbyn graddau B ac C fel arfer".

"Mae yna blant yn set uchaf ysgol fy merch sydd wedi derbyn gradd U," meddai.

"Hoffwn i'r llywodraeth esbonio hyn."

Dywedodd Richard Pyke, Pennaeth Saesneg Ysgol Joseph Sant ym Mhort Talbot: "Mae'r canlyniadau'n sylweddol waeth na'r hyn yr oedden ni wedi ei ddisgwyl.

"Mae gen i dîm profiadol ac roedd ein data mewnol i gyd yn awgrymu ein bod yn edrych ar set o ganlyniadau fyddai o leia' yn debyg i'n rhai blaenorol, os nad yn well, ac maen nhw wedi dod yn ôl yn llawer gwaeth na'r disgwyl."

'Bwriad'

Hwn oedd y tro cyntaf i'r disgyblion sefyll yr arholiad sy'n unigryw i Gymru.

"Dwi'n meddwl bod bwriad y newid yn hollol gywir," meddai Mr Pierce.

"Mae'n rhan o gynlluniau i gryfhau'r cymwysterau a bodloni gofynion defnyddwyr, cyflogwyr, addysg uwch ac yn y blaen.

"Ac felly mae'n rhaid bod y ddau fath o newid sydd wedi digwydd - cynnydd yn y pwysoli papurau ysgrifenedig o'i gymharu â'r gwaith cwrs a chryfhau gofynion o ran manylder cywirdeb - maen nhw'n newidiadau cywir i'w gwneud yn sicr.

"Ond wrth gwrs maen nhw wedi digwydd yn eithaf cyflym."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.