Damwain: menyw yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae menyw yn yr ysbyty oherwydd damwain ddifrifol am 8.40 nos Iau.
Dywedodd yr heddlu fod Vauxhall Zafira glas wedi taro'r fenyw ar yr A4061 y tu allan i orsaf ambiwlans ym Mryncethin, Pen-y-bont.
Mae'r fenyw yn Ysbyty Treforys ger Abertawe.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111, gan ddyfynnu 1400074947.