£10m o doriadau a chodiad o 4.6%

Mae cynghorwyr Blaenau Gwent, oedd yn trafod cyllideb y flwyddyn nesa', wedi cymeradwyo £10m o doriadau a chynnydd o 4.6% yn nhreth y cyngor.
Dywedodd yr arweinydd Hedley McCarthy fod angen penderfyniadau amhoblogaidd a'u bod yn gofyn i'r gymuned helpu cadw rhai gwasanaethau.
Yn y cyfarfod yng Nglyn Ebwy dywedodd: "Erbyn hyn, rydyn ni'n gyfarwydd â chydweithredu ag awdurdodau lleol eraill er mwyn darparu rhai gwasanaethau.
"Y nod yw gwell gwerth am arian a sicrhau dyfodol y gwasanaethau hynny."
Dywedodd fod cydweithio gyda'r gymuned leol yn golygu cadw gwasanaethau oedd o dan fygythiad.
"Lle bo hynny'n bosib', fe fyddwn yn ystyried ffyrdd amgen o ddarparu gwasanaethau."
Clywodd y cyfarfod fod angen penderfyniadau anodd oherwydd y setliad ariannol gwaetha' erioed oddi wrth Lywodraeth Cymru.
"Y blaenoriaethau fyddai addysg a gofalu am bobl fwya' bregus ein cymunedau ni," meddai'r arweinydd.
Cyn y cyfarfod roedd asesiadau am effaith ar wasanaethau ac ymgynghori â'r undebau, cynghorau a busnesau.