Apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Wrecsam ar nos Iau, Mawrth 6.
Yn dilyn y gwrthdrawiad ar Ffordd Cefn am 9.00pm, cafodd dau unigolyn eu cludo i'r ysbyty. Mae eu hanafiadau wedi cael eu disgrifio fel rhai difrifol.
Roedd Ford Transit wen wedi gadael y ffordd a throi drosodd yn ystod y digwyddiad.
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod, cyn cael ei hail-agor am 1.15am heddiw.
Mae dyn 26 oed yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio am fynd a cherbyd heb ganiatad y perchenog, a gyrru'n beryglus.
Mae swyddogion sydd yn ymchwilio i'r digwyddiad yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu gyda'r uned plismona ffyrdd yng Nglannau Dyfrdwy drwy ffonio 101, neu gysylltu gyda Taclo'r Taclau ar 0800 555 111.