Ymosodiad Bangor: rhyddhau llun CCTV
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhyddhau llun CCTV o ddyn maen nhw am ei holi ynglŷn ag ymosodiad ar ferch ym Mangor fis Medi y llynedd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad wrth i'r ferch 18 oed gerdded adref o glwb nos Peep yn y ddinas yn hwyr nos Iau Medi 26, 2013.
Meddai'r ditectif gwnstabl Arwel Jones: "Rhywbryd wedi 11.30pm, roedd y ddynes 18 oed yn cerdded o glwb nos Peep pan aeth dyn ati.
"Yn hwyrach, fe ymosododd yr un dyn arni mewn lleoliad oedd yn agos at ganol y ddinas.
"Fe gafodd y ferch ifanc fraw mawr, ond mae hi wedi gallu rhoi disgrifiad o'r ymosodwr.
"Roedd o rhwng 18 a 22 oed, oddeutu chwe troedfedd ac un modfedd o daldra, yn eitha' tenau a chanddo acen ddeheuol. Roedd ganddo datŵ ar un fraich a chlustdlysau yn ei ddwy glust."
Ychwanegodd DC Jones: "'Da ni wedi gallu adnabod lluniau CCTV o'r un sy'n cael ei amau... Rwan, 'da ni'n gofyn am gymorth y cyhoedd.
"Mae'r llun yn dangos dyn yn ei 20au cynnar yn gwisgo esgidiau golau, trowsus tywyll a thop golau gyda choler agored."
Gall unrhywun â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu'r Gogledd ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod RC13162539.