Prifathrawes Ysgol Goronwy Owen yn gwadu ymddwyn yn "eithafol"

  • Cyhoeddwyd
Ann Hughes
Disgrifiad o’r llun,
Mae Ann Hughes yn gwadu ymddwyn yn "eithafol" gan ddweud ei bod hi'n berson hawdd i ymdrin â hi.

Mae prifathrawes wedi gwadu ei fod o'n anghywir i ofyn i heddwas ddwrdio disgyblion am wrthod gwenu mewn llun dosbarth cynradd.

Mae Ann Hughes wedi cael ei chyhuddo o fod yn "eithafol" yn ei hymateb i amharodrwydd plant blwyddyn 6 i fihafio yn y llun dynnwyd ym Mehefin 2011, a bod tynnu heddwas, oedd yn ymweld â'r ysgol y diwrnod hwnnw, i mewn i gael gair â'r plant yn "amhriodol".

Mae Mrs Hughes, oedd yn bennaeth Ysgol Goronwy Owen ym Menllech, Ynys Môn yn wynebu gwrandawiad o flaen Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn Ewlo.

Mae Ann Hughes, sydd â 40 mlynedd o brofiad dysgu, yn cael ei chyhuddo o ymddygiad proffesiynol annerbyniol.

Roedd yr ysgol mewn trafferthion ym mis Mai 2011 pan aeth pum athro o'r gwaith yn sal ar yr un pryd, gan ddweud na fedren nhw weithio gyda Mrs Hughes ddim mwy.

Fe ddaeth athrawon cyflenwi i mewn i ddysgu'r 150 o blant, ond roedd y disgyblion yn gweld colli eu hathrawon arferol.

Mae'r brifathrawes yn wynebu nifer o gwynion gan gynnwys bod yn "unbennaidd" ac yn "eithafol."

Mae'r gwrandawiad wedi clywed bod athrawon a rhieni yn ei hofni a bod diffyg cyfathrebu difrifol.

Dwrdio disgyblion am beidio gwenu

Roedd disgyblion blwyddyn 6 yn cael llun dosbarth swyddogol wedi'i dynnu, ac roedd nifer o'r plant yn gwrthod gwenu.

Clywodd y panel sut roedd Mrs Hughes wedi gofyn i PC Brian Jones gael gair â'r plant.

Dywedodd nad oedd yn credu fod hynny'n addas ond ei fod o wedi dweud ei fod yn siomedig â'u hymddygiad yn tynnu wynebau ac ati a'i fod wedi clywed eu bod wedi gwneud i aelod o staff grio y diwrnod cynt.

Dywedodd un fam ei bod hi'n credu bod gofyn i heddwas ddweud y drefn wrth ddisgyblion yn "amhriodol" a bod ei mab wedi dod nôl o'r ysgol "yn crio, gan ddweud na fyddai byth yn mynd i'r ysgol eto. Roedd wedi dychryn."

Ond dywedodd Mrs Hughes wrth y panel nad oedd y plant yn "ypset" wrth adael yr ysgol y diwrnod hwnnw.

"Roedden nhw'n berffaith hapus yn mynd adre", meddai.

Roedd hi hefyd yn gwadu galw un bachgen yn "dwp", a rhwygo papur arholiad TASAU un disgybl o'i flaen.

Mynodd Mrs Hughes: "Dwi erioed wedi defnyddio'n gair 'twp'."

Rhwyg rhwng athrawon

Dywedodd Mrs Hughes bod y berthynas ymysg staff yr ysgol wedi methu ers Mai 2011.

Fe aeth pum athro o'r gwaith yn sal ar yr un pryd; mae'n debyg eu bod yn ofni Mrs Hughes ac yn teimlo ei bod yn rhy "awdurdodol".

Pan ofynnwyd iddi oedd hi'n cymryd cyfrifoldeb am y rhwyg, dywedodd: "Na, roedden ni'n gweithio gyda'n gilydd. Fe wnes i barhau yn union yr un fath. Fe wnes i roi'r un cyfleoedd iddyn nhw. Fe wnes i eu trin nhw yr un fath. Fe wnes i drio."

Dywedodd ei bod wedi gofyn i'r awdurdod addysg lleol am gymorth "sawl gwaith".

Ychwanegodd bod ganddi "barch mawr" tuag at y pum athro penodol.

Rhieni yn ofni'r pennaeth

Gwadodd hefyd bod methiant wedi bod yn y cyfathrebu rhwng yr ysgol a rheini, gan ddweud ei bod hi'n berson hawdd i drafod â hi ac nad oedd hi'n berson pell ac anodd.

Mae Gareth Williams, o adran addysg Cyngor Môn, wedi dweud iddo gwrdd â rhieni yn 2011.

"Eu pryder mwyaf", meddai, "oedd nad oedd neb yn gwrando arnyn nhw fel rhieni ac nad oedd ganddyn nhw lais."

Dywedodd nad oedd rhieni eisiau siarad â fo yn yr ysgol gan eu bod ofn iddyn nhw gael eu gweld gan Mrs Hughes.

Roedd dau riant wedi rhoi bocs iddo yn cynnwys llythyron gan rieni pryderus.

Dywedodd Mr Williams: "Roedd Mrs Hughes wedi colli rheolaeth o lywio'r ysgol."

Mae disgwyl i'r gwrandawiad ddod i ben ddydd Gwener.