Cyngor Fflint: Swyddi yn y fantol
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl y gall llawer o swyddi fynd yng Nghyngor Sir y Fflint, yn dilyn penderfyniad cynghorwyr i roi eu sêl bendith i werth £12 miliwn o doriadau.
Yn ogystal, bydd pobl yn gweld cynnydd o 3% yn eu treth cyngor o fis Ebrill ymlaen.
Yn y ddogfen gyllideb gafodd ei chymeradwyo gan gynghorwyr ar 18 Chwefror mae manylion ynglŷn â "goblygiadau swyddi sylweddol".
Mae'n ychwanegu bod y system iawndal ar gyfer pobl sy'n gadael wedi cael ei adolygu, er mwyn sicrhau bod taliadau diswyddo yn "deg, yn debygol o roi cymhelliant i bobl ddangos diddordeb mewn diswyddi gwirfoddol neu ymddeoliad gwirfoddol ac yn fforddiadwy i'r cyngor".
Mae'r arbedion sydd wedi cael eu cymeradwyo yn cynnwys:
- £1 miliwn drwy adolygu pob rôl a phroses ym maes gweinyddu;
- £1.88 miliwn yn y sector amgylcheddol;
- £32,000 drwy leihau swyddi rheolwr o fewn gwasanaethau cymdeithasol i oedolion;
- £182,000 o wasanaethau llyfrgell lleol;
- £55,000 yn llai i Clwyd Theatr Cymru, a £15,000 yn llai i theatr ieuenctid;
- £25,000 yn llai i gaeau chwarae a chyfleusterau.
Wrth i'r gyllideb gael ei chyhoeddi, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton: "Er bod y cyngor yn wynebu her ariannol ddigynsail oherwydd gostyngiad yn yr arian gan y llywodraeth, rydym wedi llwyddo i gydbwyso'r gyllideb ac amddiffyn y gwasanaethau mae trigolion Sir y Fflint yn dibynnu arnyn nhw.
"Mae cwestiynau'r cynghorwyr ynglŷn â'r gyllideb wedi cael eu hateb yn llawn yn ystod y broses graffu dros y mis diwethaf gan ddod ag adroddiad llawn o flaen y cyngor yn rhan olaf y broses.
"Mae amddiffyn gwasanaethau lleol wedi bod yn flaenoriaeth ac rydym wedi llwyddo i wneud arbedion yn fewnol o fewn y cyngor, tra'n cadw at ein hymrwymiad i'r trigolion."
Straeon perthnasol
- 19 Tachwedd 2013