Cymdeithas yr Iaith: galw am gymreigio Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Hefin WYnFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,
Hefin Wyn yn annerch y dorf yn y rali yn Hwlffordd ddydd Sadwrn.

Roedd nifer o bobl ar Sgwâr y Castell yn Hwlffordd bnawn Sadwrn yn galw ar Gyngor Sir Benfro i gymryd y Gymraeg 'o ddifrif'.

Dyma oedd y rali gyntaf i Gymdeithas yr Iaith ei chynnal yn Sir Benfro ers rhai blynyddoedd.

Mae'r Gymdeithas yn dweud bod eu haelodau a'u cefnogwyr wedi bod yn galw ar y Cyngor Sir ers rhai misoedd i ddatgan mai Cymraeg yw iaith y Cyngor.

Mae nhw hefyd yn llunio cyfres o alwadau penodol y gall y cyngor ddechrau gweithredu arnyn nhw yn syth er mwyn gwireddu eu cais.

Mae hyn yn dod hefyd wedi i Gyngor Sir Penfro hysbysebu swydd gweithiwr cymdeithasol a oedd yn dweud fod y Gymraeg yn iaith gyntaf i rai pobl mewn rhannau o Ogledd Penfro ac mai dim ond dysgu rhai brawddegau Cymraeg fel mater o gwrteisi fyddai angen i weithwyr wneud os oeddynt yn dymuno.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,
Mererid Hopwood yn annerch y rali.

Wrth annerch y dorf, galwodd Hefin Wyn ar Gyngor Sir Penfro "i fabwysiadu agwedd gadarnhaol tuag at y Gymraeg heb fod trethdalwyr yn gorfod gofyn byth a hefyd am wasanaeth Cymraeg.

"Dros 60 mlynedd nôl, roedd Cyngor Sir Penfro yn gwbl unol a chefnogol i'r frwydr i gadw Mynyddoedd y Preselau'n rhydd o filitariaeth. Enillwyd y frwydr honno am fod Sir Benfro gyfan yn unol. Galwn ar y cyngor sir i fod yr un mor unol yn yr ymdrechion i ddiogelu'r Gymraeg.

"Does dim balchder yn cael ei ddangos yn y ffaith fod yr iaith yn dal i gael ei siarad yn y sir a bod llawer ohonom am weld ei goroesiad. Nid yw'r Gymraeg wedi'i chyfyngu i ryw gornel diarffordd o'r sir."

Rhoddwyd cyfle i bobl ddweud am eu profiadau nhw hefyd gydag enghreifftiau yn amrywio o fethu cael gwersi nofio yn Gymraeg, yr angen am addysg Gymraeg a phryder am effeithiau toriadau i wasanaethau ar yr iaith.

Roedd y Gymdeithas yn dweud eu bod eisiau gweld y cyngor yn dangos mwy o barch tuag at yr iaith, ac yn teimlo y dylai fod yn orfodol bod rhywun yn medru siarad Cymraeg cyn cael swydd yn y Cyngor Sir.

Nid yw siarad Cymraeg yn ddim gwahanol i berson yn gorfod cael y drwydded iawn cyn cael gwaith fel gyrrwr bws, neu ddoctor yn gorfod cael hyfforddiant mewn prifysgol a chael gradd cyn cael swydd fel doctor, yn ôl y Gymdeithas.