Cyfle arall i ganolfan Torfaen
- Cyhoeddwyd

Mae gwirfoddolwyr wedi cymryd rheolaeth dros ganolfan hamdden a chymunedol yn Nhorfaen.
Mae'n bosib y byddai'r ganolfan wedi'i chau petai cyllid y cyngor wedi dod i ben.
Fe fydd gwirfoddolwyr yn dechrau rhedeg Canolfan hamdden a chanolfan gymunedol Heol Woodland yng Ngroesyceiliog, Cwmbran, o Ebrill ymlaen.
Fe fydd yn arbed dros £60,000 i gyngor Torfaen.
Roedd y cynnig yn rhan o gyllideb ehangach y cyngor i wneud arbedion o £11.2miliwn ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, 2014/15.
Fe fydd grwp o aelodau'r cyngor cymuned, aelodau'r clybiau chwaraeon a chlybiau cymunedol, defnyddwyr y ganolfan a gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant y cyngor cyn eu bod yn cymryd rheolaeth o'r lle.
Fe fydd cyngor cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon yn cymryd rhywfaint o'r cyfrifoldeb cyfreithol yn y tymor byr.
Mae cynllun busnes yn cael ei lunio i edrych ar y posibilrwydd bod y bartneriaeth yn cymryd drosodd yr holl safle, gyda'r bwriad yn y tymor hir o'i wneud yn hunan-gynaladwy.
Yn y cyfamser, bydd cytundebau sydd eisioes mewn lle gyda chlybiau chwaraeon a'r rheiny sy'n defnyddio'r caeau chwarae yn cael eu cadw.
Mae cadeirydd y cyngor cymuned, Colin Crick, wedi dweud bod y bartneriaeth yn gobeithio troi'r ganolfan "yn ganolfan sy'n fwy ffyniannus a deniadol fyth" ar gyfer pobl o bob oedran a diddordebau.
"Mae hwn yn gyfle cyffrous i gael gafael ar y safle hwn i'r gymuned a sicrhau ei ddyfodol yn y tymor hir."
Mae'r clwb yn gartref i nifer o glybiau drama, dawns a chorau, ac mae'n cynnig nifer o sesiynnau ymarfer a chwaraeon fel bocsio cic.
Mae yno hefyd ganolfan blant, clwb i bobl ag anawsterau dysgu a grwp i ddynion â phroblemau iechyd meddwl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2014