Halfpenny wedi'i anafu
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Leigh Halfpenny yn colli gweddill y tymor wedi iddo dynnu'i ysgwydd yn ystod gêm Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr bnawn Sadwrn, yn ôl hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.
Fe anafwyd Halfpenny wrth iddo daclo Luther Burrell yn ystod buddugoliaeth Lloegr o 29-18 yn Twickenham.
Mae'n edrych yn amheus a fydd Rhys Webb hefyd yn holliach ar gyfer y gêm yn erbyn yr Alban.
Roedd o'n hercian o'r cae wedi iddo anafu'i droed.
Fe welwyd Lloegr yn codi cwpan y Goron Driphlyg am y tro cyntaf ers 2003.
Roedd gobaith Cymru i gipio'r teitl am y trydydd tro wedi llithro o'u dwylo wrth i Loegr reoli'r gêm a phwyso ar y Cymry.
Mae'n ymddangos mai chwaraewr y Scarlets, Liam Williams, a ddaeth i'r cae yn lle Halfpenny yn Twickenham, yw'r un amlwg i gymryd lle seren y Llewod ar gyfer gêm ola Cymru yn y Bencampwriaeth, yr Alban gartref yng Nghaerdydd dydd Sadwrn nesaf.
Mae Mike Phillips, oedd ar y fainc yn y gêm yn erbyn Ffrainc, yn debygol o ddod yn ôl os nad yw Webb yn holliach.