Llewod Swinton 16 - 20 Crusaders Gogledd Cymru

Mae Crusaders Gogledd Cymru wedi ennill eu gêm gyntaf o'r tymor, yn rygbi 13.
Ar ôl colli yn drwm yn eu gêm agoriadol o'r gynghrair adref i Featherstone Rovers, bu iddynt wrthsefyll gwarchae gan Llewod Swinton yn y munudau olaf yr ornest, i gipio'r triphwynt.
Ar yr hanner roeddent ar y blaen o 12 pwynt i 6 wedi i Jonjo Smith a Craig Ashall sgorio ceisiadau.
Ar ddechrau'r ail hanner sgoriodd Tommy Johnson ac Adam Clay geisiai i'r Crusaders gan ymestyn y mantais i 14 pwynt.
Yna daeth Swinton yn ôl i mewn i'r gêm gyda cheisiau gan Luke Menzies ac yna Kenny Penny yn sgorio yn y gornel.
Er i Swinton bwyso am gais arall, daliodd amddiffyn y Crusaders yn gadarn i gipio'r pwyntiau.
Ar ôl dwy gêm mae'r Crusaders yn y degfed safle yn y tabl.