Torcalon i Donaldson yn Florida
- Cyhoeddwyd
Gorffennodd y golffiwr o Bontypridd, Jamie Donaldson, yn ail ym Mhencampwriaeth WGC y byd ar gwrs Doral yn Florida nos Sul.
Fe allai pethau fod wedi bod yn well i Donaldson, ond fe ildiodd ergyd ar y twll olaf un i orffen un ergyd y tu ôl i'r enillydd Patrick Reed.
Roedd Reed ddwy ergyd ar y blaen cyn dechrau'r rownd olaf, ac fe gafodd sgôr o 71 ddydd Sul i orffen bedair ergyd yn well na'r safon.
Dyna oedd cyfanswm Donaldson hefyd wrth iddo gyrraedd y twll olaf, ond fe darodd y Cymro ei ail ergyd i'r tywod, ac er gwaethaf ymdrech dda, methodd o 16 troedfedd.
Roedd Donaldson yn gydradd ail gyda Bubba Watson o America.
Dyma'r canlyniad gorau erioed i Donaldson ar gylchdaith y PGA yn America. Cyn ddydd Sul, seithfed oedd ei ganlyniad uchaf.
Y ffefryn ar ddechrau'r pedwerydd diwrnod oedd Tiger Woods wedi iddo sgorio 66 ddydd Sadwrn, ond fe gafodd golffiwr gorau'r byd drafferthion gydag anaf i'w gefn ac fe gafodd rownd o 78 i orffen yn siomedig.
Yr unig ddau arall o Brydain i greu argraff oedd Stephen Gallagher o'r Alban orffennodd un ergyd yn waeth na'r safon, a Graeme McDowell o Ogledd Iwerddon oedd un ergyd y tu ôl i Gallagher.
PENCAMPWRIAETH WGC Y BYD: DORAL, FLORIDA - Canlyniadau :-
1. Patrick Reed (UDA) = -4
=2. Jamie Donaldson (Cymru) = -3
=2. Bubba Watson (UDA) = -3
=4. Richard Sterne (De Affrica) = Par
=4. Dustin Johnson (UDA) = Par