Achos gyrrwr i ddechrau ym mis Mai
- Cyhoeddwyd
Bydd yr achos yn erbyn gyrrwr, sydd wedi ei gyhuddo o yrru heb y gofal a'r sylw dyladwy cyn gwrthdrawiad achosodd anafiadau i blant ysgol a hebryngwraig, yn digwydd yn y gwanwyn.
Cafodd Robert Bell, o'r Rhŵs, ei arestio'r llynedd pan aeth ei gar Audi A3 oddi ar y ffordd a throi ben i waered y tu allan i Ysgol Gynradd y Rhŵs ym Mro Morgannwg.
Mae'r dyn 61 oed yn gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn gan ddweud ei fod wedi dechrau teimlo'n sâl wrth lyw ei gerbyd.
Yn dilyn y gwrthdrawiad ar Fehefin 20, 2013, fe gafodd yr hebryngwraig Karin Williams ei chlodfori wedi iddi daflu ei hun o flaen y car er mwyn ceisio achub plant oedd gerllaw.
Cafodd y fenyw 50 oed - a gafodd gyfres o anafiadau gan gynnwys torri ei choesau, penelin, ysgwydd ac asennau - wobr Pride of Britain am ei dewrder mewn seremoni a ddarlledwyd ar y teledu.
Yn dilyn cyflwyniadau gan yr erlyniad a'r amddiffyniad yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun, dywedodd y barnwr Bodfan Jenkins bod disgwyl i'r achos yn erbyn Mr Bell bara tridiau.
Disgwylir y bydd tua 12 o dystion - gan gynnwys Mrs Williams - yn cael eu galw.
Cafodd Mr Bell ei ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn sefyll ei brawf yn Llys Ynadon Caerdydd ar Fai 14.