Dwyn cŵn: Arestio dyn

  • Cyhoeddwyd
cwnFfynhonnell y llun, North Wales Police
Disgrifiad o’r llun,
Mae heddlu'n parhau i chwilio am dri o'r cŵn gafodd eu dwyn

Wedi i chwech o gŵn gael eu dwyn o Fetws Garmon a Waunfawr ddechrau'r wythnos ddiwethaf mae dyn o Gaernarfon wedi ei arestio.

Mae rhai o'r cŵn gafodd eu cipio wedi eu canfod.

Fe gafodd pump o ddaeargwn eu dwyn ym Metws Garmon a chafodd ci defaid ei gymryd o Waunfawr rywbryd rhwng 7.30am Mawrth 3 a 7.30am y bore canlynol.

Cafwyd hyd i ddau o'r daeargwn yn Aberystwyth ac roedd un arall mewn cyflwr gwael yn ardal Bontnewydd.

Mae swyddogion yn parhau i chwilio am y cŵn eraill.

Dywedodd yr heddwas sydd yng ngofal yr ymchwiliad, Matt Tapping o orsaf heddlu Penygroes: "Mae tri chi wedi cael mynd yn ôl at eu perchennog ond mae'n hymchwiliad ni'n parhau i ddarganfod ymhle mae'r tri arall.

"Fe fydden ni'n hoffi clywed gan unrhywun oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd rywun yn ymddwyn yn amheus neu gerbyd amheus all fod â rhan yn y lladrad."

Gall unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu'r Gogledd ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 a dyfynnu'r cyfeirnod RC14031976.